Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cael Gwared â Thrawsffobia

Published: 18/11/2016

Bydd fflag yn cael ei chodi y tu allan i Neuadd y Sir heddiw (18 Tachwedd) i gynrychioli Diwrnod y Cofio Trawsrywiol er cof am yr holl unigolion trawsrywiol sydd wedi marw o drais trawsffobig. Cychwynnwyd Diwrnod y Cofio Trawsrywiol, sy’n cael ei gynnal ar 20 Tachwedd pob blwyddyn, ym 1999, pan ddaeth yn amlwg bod niferoedd benodol fawr o bobl Drawsrywiol yn cael eu llofruddio. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cymryd rhan yn y diwrnod hwn i ddangos ein hymrwymiad i hybu cydraddoldeb a chael gwared â gwahaniaethu a throseddau casineb. Er bod yna ddeddfwriaeth ar gydraddoldeb i amddiffyn pobl Drawsrywiol, mae trawsffobian parhaun broblem fawr mewn cymdeithas. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint: “Mae pobl Drawsrywiol yn parhau i gael eu camddeall i raddau helaeth, felly, er bod y fflag yn un ffordd o gofior rhai sydd wedi marw, mae hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ac i atgoffa pobl o wahaniaethu, rhagfarn a pherygl mae pobl Drawsrywiol yn eu wynebu pob dydd. Mae hefyd, yn amserol iawn, yn atgoffa pobl o wahaniaethu, aflonyddu a throseddau casineb yn erbyn grwpiau eraill ein cymdeithas, fel pobl anabl a phobl sy’n lesbiaid, hoyw neu’n ddeurywiol.” I roi gwybod am Drosedd Casineb, ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (999 os ydyw’n argyfwng) neu linell Gymorth 24/7 Am Ddim Cymorth i Ddioddefwyr ar 0300 30 31 982, neu rhowch wybod ar-lein ar: www.reporthate.victimsupport.org.uk.