Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffair Nadolig y Cadeirydd

Published: 21/11/2016

Bydd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal Ffair Nadolig ar ddydd Sadwrn, 26 Tachwedd. Bydd elw o’r Ffair i’w chynnal yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon yn cael ei roi i’r ddwy elusen a enwebwyd gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis yn ystod ei flwyddyn yn y swydd. Bydd nifer o stondinau, gan gynnwys crefftau ac addurniadau ar gyfer y Nadolig, cacennau a jamiau, fframiau personol, cardiau cyfarch, planhigion a theganau. Ar gyfer y plant fe fydd yna beintio wynebau a thatws ac ymweliad gan Siôn Corn. Bydd yna raffl hefyd gyda gwobrau gwych. Fe’ch gwahoddir chi i ddod draw i ddiwrnod o hwyl i’r teulu a gwneud rhywfaint o siopa Nadolig tra’n cefnogi Hosbis Sant Cyndeyrn a Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Cymru.