Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon a Model Cyflawni Amgen Hamdden a Llyfrgelloedd

Published: 21/11/2016

Yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd, ystyriodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint adroddiad ar gynnydd y Model Cyflawni Amgen ar gyfer Hamdden a Llyfrgelloedd. Un o ystyriaethau allweddol cyfarfodydd blaenorol y Cabinet oedd ymgysylltiad ac ymrwymiad y staff rheng flaen ir Model Cyflawni Amgen arfaethedig. Siaradodd y staff a fynychodd cyfarfod mis Mai’r Cabinet am eu hymrwymiad i’r cwmni cydfuddiannol arfaethedig a arweinir gan weithwyr. Cytunodd y Cabinet ar gynnig i gynnwys y Gwasanaeth Amgueddfeydd o fewn y sefydliad newydd gan nad oedd unrhyw ddewis arall ar gael ir gwasanaeth fod yn rhan o Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd leol. Cytunwyd hefyd i gyflwyno cynllun gweithredu terfynol y sefydliad newydd i’r Cabinet ym mis Rhagfyr a bod pleidlais y staff yn cael ei chynnal ar ôl y cyfarfod hwn. Hefyd, penderfynwyd newid y dyddiad sefydlu i fis Gorffennaf 2017. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwasanaethau Hamdden: “Bydd sefydlur sefydliad newydd ym mis Gorffennaf 2017 yn caniatáu cyfnod cysgodol o chwe mis, gyda bwrdd a thîm rheoli cysgodol yn dechrau gweithio ddiwedd mis Ionawr 2017. Mae hon yn amserlen realistig ac yn sicrhau y gellir gwneud yr arbedion a gyllidebwyd ar eu cyfer yn 2017/18 heb orfod cau cyfleusterau, sy’n gryn dipyn o gamp o ystyried y sefyllfa economaidd bresennol.” Yn yr un cyfarfod, bu i’r Cabinet hefyd edrych ar y cynnydd mewn perthynas â Chynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon, a gytunwyd arno ym mis Gorffennaf. Maer adroddiad yn nodi cynnydd y grwp cymunedol, sy’n cynnwys ymgysylltu ac ymgynghori â staff, corffori’r ganolfan fel Sefydliad Elusennol Corfforedig a thrafod gyda chynghorau tref a chymuned. Meddai’r Cynghorydd Jones: “Yn seiliedig ar y gwaith y maer grwp cymunedol wedi ei wneud hyd yma a chymhlethdod y gwaith sydd angen ei wneud i sicrhau bod y trosglwyddiad hwn yn llwyddiannus, maer Cyngor wedi cytuno i drosglwyddo’r ased fesul cam rhwng 31 Rhagfyr 2016 ac 1 Mawrth, 2017.”