Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau yn Gyntaf yn parhau i ganfod gwaith i bobl leol

Published: 22/11/2016

Yn dilyn rhaglen hyfforddi arloesol ar y cyd â chwmni adeiladu, mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint yn parhau i lwyddo i ddod o hyd i waith i bobl leol. Roedd “Adeiladu Dyfodol, menter cwmni adeiladu Wates Residential yn gweld ymgeiswyr yn cael eu recriwtio drwy raglen Cymunedau yn Gyntaf ac Esgyn gan Lywodraeth syn gweithio gyda phobl syn wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Mynychodd un ar ddeg o bobl leol y cwrs pythefnos - wyth ohonynt bellach wedi sicrhau swyddi gyda chwmnïau lleol. Maer tri unigolyn syn weddill yn parhau i dderbyn cefnogaeth drwy Raglen Esgyn a Chymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint i sicrhau cyflogaeth. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn ymwneud yn helaeth â’r rhaglen buddiannau cymunedol yn Sir y Fflint ac mae ganddo gysylltiadau ardderchog gyda gysylltiadau gyda Wates yn ogystal â busnesau eraill yn yr ardal. Dywedodd Richard Morgan, a ddechreuodd weithio gyda Wates Residential yn ddiweddar: “Roedd y cwrs Adeiladu Dyfodol yn dda iawn i mi ac rwyf wedi llwyddo i gael cymwysterau wnes i erioed ddychmygu y byddwn yn eu cael. Mae hyn wedi golygu y gallaf nawr ddechrau ar y swydd hon gyda Wates a chael rhywfaint o brofiad fydd, gobeithio, yn arwain at fwy o gyfleoedd i mi yn y dyfodol. Heb y cyfle hwn drwy Raglen Esgyn a Chymunedau yn Gyntaf, ni fyddai hyn byth wedi digwydd. Ac maent yn dal i fod yno i gefnogi, syn wych. Roedd y rhaglen hyfforddi yn cynnwys sesiynau crefft sgiliau adeiladu, gan gynnwys gwaith saer a gwaith brics, yn ogystal â gweithdai CV a chyfweliad. Derbyniodd pob ymgeisydd dystysgrif a dyfarnwyd QCF Lefel 1 mewn Crefftau Adeiladu a chofrestriad CSCS i ymgeiswyr i’w helpu i sicrhau hyfforddiant a phrofiad gwaith ar safleoedd adeiladu yn y dyfodol. Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Mae gallu rhedeg y mathau hyn o gyrsiau gyda chefnogaeth ein partneriaid a chontractwyr yn hanfodol ar gyfer Cyngor Sir y Fflint os ydym am barhau i adeiladu mwy o dai. Mae angen i ni hyfforddi ein pobl leol fel eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth lleol. Rwyf wrth fy modd bod y cwrs Adeiladu Dyfodol cyntaf hwn yn Sir y Fflint wedi bod mor llwyddiannus ac rwyn edrych ymlaen at allu darparu mwy o gyrsiau fel hyn yn y dyfodol.” Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential: “Drwy ei fuddsoddiad mewn cartrefi newydd, mae Cyngor Sir y Fflint yn gosod y safon ar gyfer buddsoddi mewn tai mawr a rhan fawr o hyn yw ehangder y cyfleoedd maen eu creu ar gyfer pobl leol. Fel partner datblygu’r Cyngor, rydym wedi bod yn gweithion agos dros y flwyddyn ddiwethaf i adnabod y ffyrdd y gallwn gael effaith gadarnhaol yn y sir ac mae ein darpariaeth ar y cyd o Adeiladu Dyfodol yn un enghraifft on hymdrechion i gyflawnir ymrwymiad hwn. Or chwith ir dde: Rheolwr Safle Wates Residential, Richard Morgan, Jorden Whittaker a Steven Wilkinson