Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr Ysgolion Iach

Published: 25/11/2016

Un o’n ysgolion uwchradd lleol yw’r gyntaf yn yr ardal i dderbyn y Wobr Ansawdd Genedlaethol gan Ysgolion Iach. Ysgol Uwchradd Alun yw’r ysgol uwchradd gyntaf o bob rhan o Sir y Fflint a Wrecsam i gyflawni’r Wobr Ansawdd Genedlaethol ar bymthegfed ysgol yng Nghymru. Maer Cynllun Ysgolion Iach yn fenter genedlaethol a ariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n cydnabod ymrwymiad ysgol i iechyd a lles. Dwedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Y Wobr Ansawdd Genedlaethol ywr anrhydedd uchaf o dan y cynllun ac mae Ysgol Alun wedi treulio mwy na 14 mlynedd yn gosod iechyd a lles yng nghalon yr hyn y maent yn ei wneud. Mae hon yn gamp enfawr ir ysgol ac yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono fel sir.” Daeth dros 100 o gynrychiolwyr disgyblion o wahanol grwpiau disgyblion ar draws yr ysgol (gan gynnwys y rhai or pedwar Cyngor Ty, Cyngor yr Ysgol, Ecosgolion a’r Grwp Gweithredu ar Faeth yn yr Ysgol) ynghyd i ddathlur cyflwyniad arbennig. Cyflwynwyd y Wobr i’r ysgol gan Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis. Dywedodd Jane Cooper, Pennaeth yn yr ysgol: “Trefnir y digwyddiad dyrchafol ac ysbrydoledig hwn gan gynllun Ysgolion Iach Cyngor Sir y Fflint. Nod heddiw yw amlygu gwaith tîm ardderchog ein holl ddisgyblion ac athrawon, ac rwyn hynod o falch o fod yr ysgol gyntaf yn yr ardal i dderbyn y wobr hon - da iawn i bawb syn gysylltiedig. “ Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Ian Budd, Y Cynghorydd Peter Curtis - Cadeirydd y Cyngor ar Cynghorydd Chris Bithell - Aelod Cabinet dros Ieuenctid ac Addysg, yn dathlu llwyddiant yr Wyddgrug Ysgol Alun gyda disgyblion, athrawon, staff a llywodraethwyr ynghyd â Claire Sinnott, Uwch Ymarferydd Ysgolion Iach