Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant yr Academi Brentisiaid

Published: 01/12/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch bod pedwar prentis wedi cychwyn gyda Gwaith yn yr Arfaeth Sir y Fflint. Ym mis Hydref y llynedd, dechreuodd y Cyngor weithio gyda Gwaith yn yr Arfaeth Sir y Fflint i sefydlu Academi Brentisiaid yn y Sir. Bydd yr academi’n helpu i greu’r nifer fwyaf bosibl o bobl leol sydd â sgiliau trwy brentisiaethau, ac mae gofyn amdanynt ar gyfer rhaglenni mawr y Cyngor i adeiladu ac adnewyddu tai dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r prentisiaid yn gweithio gyda chontractwyr sydd wedi’u penodi gan y Cyngor – tri gyda Wates Residential yn y Fflint – Nathan Bloor, Jamie Hayward a Beth Mclellan ac mae Harvey Appleby gyda Keepmoat yn yr Wyddgrug. Mae contractau adeiladu’r Cyngor bob tro’n mynnu bod y contractwr yn darparu cyfleoedd prentisiaeth ac yn recriwtio gweithwyr lleol, ond yn aml, mae’n anodd cwblhaur prentisiaethau oherwydd natur y contractau. Bydd creu’r academi hon yn sicrhau bod modd cynnig a darparu prentisiaethau llawn. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd: Maer Cyngor yn bwriadu gwario tua £150 miliwn ar adeiladu tai dros y 5 mlynedd nesaf ac mae hyn yn creu’r cyfle am oddeutu 50 o brentisiaethau i lefel 2, gyda rhai or rhain yn cyflawni lefel 3 a thu hwnt. Mae’r mathau o weithwyr sydd eu hangen yn cynnwys crefftwyr traddodiadol fel plymwyr, seiri, plastrwyr, arbenigwyr nwy a thrydan, bricwyr, ond maent hefyd yn cynnwys roliau technegol ac ategol eraill fel swyddogion cyfathrebu â thenantiaid a syrfewyr meintiau syn aml yn cael eu hanwybyddu, ond mae galw lleol a chenedlaethol mawr amdanynt. “Rydym hefyd eisiau gweld rhaglen dda ar waith i gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith newydd ac ychwanegol ar gyfer y rhai sydd bellaf oddi wrth y gweithle, fel rhai nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) a rhai sydd ag anableddau dysgu neu heriau iechyd meddwl. Dywedodd y Prentis Gweithredol Crefftau Amrywiol, Beth Mclellan: “Fe wnes i gais am y brentisiaeth yma er mwyn gallu deall a phrofi gwahanol grefftau a oedd ar gael yn y diwydiant. Roeddwn i mod falch bod fy nghais wedi bod yn llwyddiannus. Rwy’n ei fwynhau gan fod pob diwrnod yn gwbl wahanol – mae gwaith a thasgau newydd iw gwneud, ac rwy’n gallu ehangu fy sgiliau a phrofi pethau newydd. Dywedodd prentis arall mewn Gweinyddu Busnes, Harvey Appleby: “Fe wnes i gais am brentisiaeth gan fy mod i am gael profiad mewn awyrgylch swyddfa go iawn tra ron in astudio cwrs coleg. Rwyf wedi dysgu nifer o sgiliau newydd yn barod, ac rwy’n ei fwynhau’n fawr iawn.” Dywedodd Cyfarwyddwr Gwaith yn yr Arfaeth, Mark Scott: “Rydyn nin frwd dros ddarparu dyfodol cynaliadwy i ystod amrywiol o bobl ifanc ddawnus. Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint i greu cyfleoedd ychwanegol ar brosiectau lle maen anodd cael rhai neu rai syn aml yn diflannu. Mae Gwaith yn yr Arfaeth yn gwmni buddiannau cymunedol sydd âr profiad perthnasol, y diwylliant ar gwerthoedd cywir i fod yn bartner agos i’r Cyngor ac mae gweithio gyda thrydydd parti yn lleihaur gost o weinyddur cynllun yn sylweddol i’r Cyngor. Am ragor o wybodaeth ynglyn â chyfleoedd am brentisiaethau, cysylltwch ag Amy Dutton ar 01352 703453 neu amy@futureworks.wales.