Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Gwasanaeth Hir Gofalwyr Maeth 2016

Published: 05/12/2016

Mae deunaw o ofalwyr math wedi’u hanrhydeddu gan Gyngor Sir y Fflint am gyrraedd cerrig milltir mewn maethu. Cyflwynwyd y gwobrau Mewn Seremoni ddiweddar yng Ngwesty Northop Hall gan Craig Macleod, Uwch Reolwr Gwasanaethau Cymdeithasol, i unigolion sydd wedi bod yn maethu am gyfnodau’n amrywio o 5 i 30 mlynedd. Cyflwynwyd gwobr 5 mlynedd i ddeuddeg o ofalwyr maeth, 10 mlynedd i dri, 15 mlynedd i ddau a chyflwynwyd gwobr 30 mlynedd i Phyllis a Tom Hanson. Mae Phyllis a Tom wedi maethu dros 30 o blant ers 1986. Daeth llawer o’r plant y gofalodd y pâr amdanynt dros y blynyddoedd atynt pan oedden nhw’n ifanc iawn ac arhoson drwy gydol eu plentyndod a’u harddegau gan deimlo’n wirioneddol ran o’r teulu. Mae nifer fawr o’r bobl ifanc yn dal i ymweld â Phyllis a Tom ac erbyn hyn yn mynd â’u plant eu hunain efo nhw. Diolchodd Craig Macleod i Phyllis a Tom Hanson ac i’r holl ofalwyr maeth ar ran Cyngor Sir y Fflint a’r plant maen nhw’n gofalu amdanynt: “Pan fydd Phyllis a Tom yn derbyn plentyn maen nhw’n gwneud hynny gyda brwdfrydedd a breichiau agored. Bydd pob plentyn yn dod yn rhan o’r teulu ac yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd ar fywyd teuluol – o ddigwyddiadau bob dydd i wyliau. Bydd y berthynas maen nhw wedi’i meithrin gyda rhai plant o’r bobl ifanc maen nhw wedi gofalu amdanynt yn para oes. Derbynnir plant am yr hyn ydyn nhw a bydd Phyllis a Tom yn eu cefnogi ym mha bynnag ffordd sy’n angenrheidiol er mwyn eu galluogi nhw i wireddu eu potensial, beth bynnag yw hynny.” Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Cynghorydd Christine Jones: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bob un o’n gofalwyr maeth – ar lefel bersonol a hefyd ar ran Cyngor Sir y Fflint. Mae Gofalwyr Maeth da yn gwneud gwahaniaeth i ddyfodol plant ac i’w cyfleoedd mewn bywyd. Maen nhw’n agor eu cartrefi ac yn darparu amgylchedd teuluol diogel a gofalgar lle gall plant ddatblygu a ffynnu a gwireddu eu potensial.” Am ragor o wybodaeth ynglyn â bod yn ofalwr maeth, cysylltwch æ Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ar 01352 701965 neu ewch i www.flintshirefostering.org.uk.