Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ynglyn â’r Cynllun Gwella

Published: 08/12/2016

Ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr, bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn diweddariad ynglyn â chynnydd Cynllun Gwellar Cyngor ar gyfer 2016/17. Pob blwyddyn maer Cyngor yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwelliant mewn Cynllun Gwella, gan weithio ar dargedau cyffredinol i ddatblygu gwasanaethau a chodi safonau byw ledled y sir. Mae’r adroddiad monitro sy’n cael ei gyflwyno ddydd Mawrth yn darparu asesiad canol blwyddyn ac yn dangos a ywr Cyngor ar y trywydd iawn i gael yr effeithiau a ddymunir. Mae uchafbwyntiau ariannol y flwyddyn hyd yma’n cynnwys: · Codi 12 ty cyngor newydd ar safle Custom House yng Nghei Connah. Gorffennwyd y gwaith adeiladu fis yma, a’r rhain yw’r tai cyngor cyntaf i gael eu hadeiladu yng Nghymru ers cenhedlaeth. Ym mis Awst 2016 dechreuodd y gwaith adeiladu i godi 92 o dai cyngor a thai fforddiadwy ar safle Walks yn y Fflint, cyn y dyddiad a bennwyd yn wreiddiol. · Mae cyflwyno Grantiau Cyfleusterau ir Anabl ar gyfer plant ac oedolion yn rhagori ar y targedau. · Mae’r gwaith i uwchraddio tai Cyngor hefyd wedi rhagori cryn dipyn ar y targed o ran gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd a gosod synwyryddion mwg. · Troswyd 86% o ymholiadau busnes yn fuddsoddiadau yn y sir gan arwain at 322 o swyddi newydd - 242 ym Mharth Menter Glannau Dyfrdwy a 5 yn y sector mentrau cymdeithasol, gan ychwanegu at y cyfanswm cronnol. Felly, hyd yma yn 2016/17 mae 934 o swyddi newydd wedi eu creu. · Agorwyd chwe chaffi dementia yn y sir, ac mae tair tref bellach yn drefi “Cyfeillgar i Ddementia”, sef Bwcle, y Fflint ar Wyddgrug. · Mae dull partneriaeth rhagweithiol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddefnyddio cronfeydd gofal canolraddol wedi cael effaith gadarnhaol ar sicrhau bod cleifion yn pontio’n rhwydd rhwng gwasanaethau ysbyty a gwasanaethau gofal cymdeithasol. · Rydym ni wedi rhagori’n sylweddol ar y targed i gefnogi pobl ifanc o oedran ysgol sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid, drwy gynnig 25 awr o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Yn wir, rydym ni wedi cynorthwyo ddwywaith yn fwy o bobl ifanc. Rydym ni hefyd wedi rhagori ar y targed mewn perthynas â’r rheiny sy’n hyn nag oedran ysgol. Maer Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gweithio gyda darparwyr allanol megis Groundworks a LIFT i ddatblygu cyfleoedd dysgu ar gyfer pobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol. · Mae Sir y Fflint wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o gam-drin domestig sy’n cael eu dwyn yn ôl i Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg ar gyfer adolygiad. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Drwy ein Cynllun Gwella, rydym nin blaenoriaethu ardaloedd a gwasanaethau sy’n bwysig i’n cymunedau a’n trigolion, ac yn mesur pa mor dda rydym ni’n gwneud pethau. “Er gwaethaf y pwysau ariannol parhaus, mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fod yn uchelgeisiol, yn arloesol ac yn benderfynol o gyflawni ein blaenoriaethau, syn cynnwys cynorthwyo pobl i gael mynediad at dai fforddiadwy ac addas, addysg o ansawdd, hyfforddiant a chyflogaeth.” Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor: “Mae’r perfformiad yn erbyn ein blaenoriaethau yn dystiolaeth dda o ba mor dda y mae ein Cyngor yn cyflawni’r pethau sydd o bwys mawr in cymunedau. “Drwy fonitro Cynllun Gwellar Cyngor ar wahanol gyfnodau yn ystod y flwyddyn gallwn asesu a ydym ni’n mynd i gyrraedd y targedau a osodwyd i wella gwasanaethau er budd trigolion ac fe allwn wedyn ganolbwyntio ein hymdrechion ar ein blaenoriaethau lleol.”