Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch yr heddlu yn erbyn yfed a gyrru a chymryd cyffuriau a gyrru

Published: 08/12/2016

Mae Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch eleni yn erbyn Yfed a Gyrru. Mae ymgyrch Cymru-gyfan sy’n targedu’r rhai sy’n gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau dros y Nadolig yn cael ei lansio heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 1af) a bydd heddluoedd ar draws y wlad yn defnyddio gwybodaeth leol a thactegau cudd-wybodaeth er mwyn dal y rhai sy’n gyrru dan ddylanwad dros gyfnod y Nadolig. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd: “Mae’r cyngor yn llwyr gefnogi ymgyrch Heddlu’r Gogledd a’r opsiwn mwyaf diogel yw gadael eich car adref os ydych chin bwriadu cael diod yn ystod tymor yr Wyl. Os oes rhaid i chi yrru, y cyngor gorau yw i beidio yfed o gwbl.” Yn ystod ymgyrch Nadolig 2015, cynhaliwyd 8,894 o brofion anadl yng Ngogledd Cymru gyda 82 o’r rheini yn bositif, wedi methu neu’n gwrthod. Cafodd 35 person eu harestio am yrru dan ddylanwad cyffuriau. Meddai’r Arolygydd Alun Davies, o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Unwaith eto mi fydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar atal gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau ac arbed y rhai sy’n fodlon mentro’u bywydau eu hunain a phobl eraill. “Bydd swyddogion Uned Plismona Ffyrdd, Timau Cymdogaeth Ddiogelach a’r Heddlu Gwirfoddol ar waith ac fe ddylai unrhyw un sy’n meddwl gyrru dan ddylanwad wybod y byddwn ni allan yno’n disgwyl amdanyn nhw. “Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i wneud y ffyrdd yn ddiogelach i bawb ac fe fydden nhw’n parhau i dargedu’r rhai sy’n peryglu eu bywydau. Peidiwch â gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau – gall hyd yn oed y mymryn lleiaf o gyffuriau neu alcohol effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel. Peidiwch â gadael i’ch teulu a’ch ffrindiau dalu’r pris.” Yn ychwanegol at yr ymgyrchoedd sy’n cael eu targedu, bydd swyddogion hefyd yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn atgoffa pobl nad ydy hi byth yn iawn i gymryd y risg. Gall defnyddwyr rhwydweithiau cymdeithasol ddilyn yr hashnod #5angheuol. Hyd yn hyn yn 2016 (Ionawr 1 – Tachwedd 18), mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio 762 o bobl am yrru dan ddylanwad alcohol a 328 am yrru dan ddylanwad cyffuriau. Fe ychwanegodd Arolygydd Alun Davies: “Mae swyddogion yn wyliadwrus drwy gydol y flwyddyn ond yn arbennig felly ar yr adeg yma – fe wnawn nhw eich gweld chi, fe wnawn nhw eich dal chi a bydd yn rhaid i chi wynebu’r canlyniadau. Mae angen i yrwyr fod yn ymwybodol, waeth pryd y caen nhw’u dal, p’un ai wrth fynd i’r gwaith neu fynd â’r plant i’r ysgol, y bydden nhw’n wynebu’r un cosbau â’r rhai hynny sydd wedi penderfynu yfed yn drwm yn y dafarn a gyrru’r un noson.” Os ydych yn amau bod rhywun yn gyrru ac na ddylen nhw wneud hynny, riportiwch hynny ar unwaith i’ch heddlu lleol drwy ffonio 101 (neu 999 os oes bygythiad brys) neu gallwch ffonio Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.