Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Help gyda materion Tai

Published: 14/12/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi lansio ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth trigolion ynghylch y cyngor a’r cymorth sydd ar gael iddynt am faterion tai. Mae’r ymgyrch wedi’i thargedu at bobl nad ydynt efallai yn sylweddoli eu bod yn gymwys i gael cymorth, er enghraifft pobl ar incwm isel sy’n cael trafferth ymdopi â’u rhent a’u biliau. Bydd nifer o themâu’n cael sylw dros yr ychydig wythnosau nesaf, a’r cyntaf ohonynt fydd Fforddiadwyedd. Os ydych yn ateb ‘ydw’ i unrhyw rai o’r cwestiynau isod, cysylltwch ag Atebion Tai Sir y Fflint gan ei bod yn bosibl y gallant eich helpu: · ‘Da chi ar ei hôl hi gyda’ch rhent ac yn ofni y byddwch yn colli eich cartref? · ‘Da chi wedi eich effeithio gan y Dreth Llofftydd? · ‘Da chi’n cael problemau talu eich rhent? Meddai Aelod Cabinet Sir y Fflint dros Dai, y Cynghorydd Helen Brown: “Mae’n bosibl bod ‘na nifer fawr o bobl sydd ddim gwybod bod help ar gael iddyn nhw os ydyn nhw’n mynd i anawsterau, am beth bynnag reswm, ac yn cael problemau dod â dau ben llinyn ynghyd. Rydw i’n annog unrhyw un sydd yn y fath sefyllfa i gysylltu â’r tîm atebion tai er mwyn cael cyngor am y cymorth ariannol a allai fod ar gael iddyn nhw neu am opsiynau tai fforddiadwy eraill. Rydym eisiau annog ein trigolion i wneud defnydd o’r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw drwy Gyngor Sir y Fflint.” Gall Atebion Tai helpu mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gan gynnwys symud ar gyfer gwaith neu er mwyn gofalu am rywun, gadael y lluoedd arfog, neu os yw eich cartref yn orlawn neu o safon wael. Gall Atebion Tai drefnu mynediad i berchnogaeth tai fforddiadwy a chofrestrau tai cymdeithasol, help gyda blaendal ar gyfer y sector rhentu preifat, mynediad i gyngor ariannol/budd-daliadau, ac/neu opsiynau ar gyfer symud i eiddo ar gyfer pobl wedi ymddeol neu lety gwarchod. Mae’r holl wybodaeth ar gael ar ein gwefan yn http://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Housing/Housing-Solutions.aspx. Rydym yn cydweithio gyda’n partneriaid, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Cymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin a Grwp Cynefin. Gallwch ffonio’r Tîm ar 01352 703777 neu anfon e-bost at housingsolutionstriage@flintshire.gov.uk nau alw yn un o’n Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu (wedi’u lleoli yn y Fflint, Treffynnon, Cei Connah, yr Wyddgrug a Bwcle). Dilynwch ni ar twitter @CSyFflint #taicymorth.