Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cerdyn Nadolig Arweinydd y Cyngor

Published: 16/12/2016

Mae disgybl ysgol leol wedi ennill cystadleuaeth i ddefnyddio ei gwaith celf fel cerdyn Nadolig swyddogol gan Arweinydd Cyngor Sir y Fflint. Bob blwyddyn mae’r Cynghorydd Aaron Shotton yn gwahodd plant ysgol i dynnu llun tymhorol gydar dyluniad buddugol yn cael ei argraffun broffesiynol. Eleni daeth tro disgyblion Ysgol Bryn Deva, Cei Connah ac ymwelodd y Cynghorydd Shotton âr ysgol i gwrdd â rhai or rhai oedd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth a enillwyd gan ddisgybl blwyddyn 5 Jessica Lyons. Jessica yn cael tocynnau ar gyfer pantomeim Aladdin a’r llawr sglefrio yn Theatr Clwyd. Y rhai a ddaeth yn ail oedd Vickie Allen a Teodora Bolmaga, sydd ym mlwyddyn 5 hefyd. Dywedodd y Cynghorydd Shotton: “Roedd y safon yn uchel iawn ac roeddwn yn hapus iawn gyda chreadigrwydd yr holl ddyluniadau. Gwnaeth y disgyblion ymdrech fawr iawn ac roedd yn anodd iawn dewis enillydd. Maer cerdyn yn cael ei anfon at holl Gynghorwyr a chynrychiolwyr y Llywodraeth gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC.” Capsiwn: Y Cynghorydd Shotton gyda rhai or disgyblion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth ac athrawes, Tamsin Crostone.