Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


OBE yn rhestr Anrhydeddaur Flwyddyn Newydd

Published: 31/12/2016

Mae pennaeth ysgol uwchradd Sir y Fflint, sydd wedi bod yn gweithio yn nhrefgordd Bwcle ers 2006, wedi cael OBE yn rhestr Anrhydeddaur Flwyddyn Newydd. Mae Mrs Rosemary Jones, pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed, wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad i addysg. Mae wedi arwain tîm yr ysgol o athrawon a staff cefnogi i ddatblygu Cymuned Ddysgu Eithriadol, lle mae cyflawniad a lles yn flaenoriaethau. Barnwyd safonau yn yr ysgol i fod yn Ardderchog gan Estyn yn 2015 ac yn 2016 enillodd yr ysgol Wobr Ansawdd Cymru. Mae gan Rosemary ugain mlynedd o brofiad arwain ysgol. Dechreuodd ei gyrfa addysgu yn y 1970au yn Llundain. Ar ôl symud i Ddyffryn Clwyd yn 1984, mae wedi gweithio yn Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Glan Clwyd ac yn ystod y deng mlynedd diwethaf fel pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed. Meddai Rosemary Jones: “Cefais fy synnu ac roeddwn yn falch o fod wedi cael fy nghyflwyno ar gyfer anrhydedd hwn, syn adlewyrchu cyfraniad tîm Ysgol Uwchradd Elfed wrth ddarparu cyfleoedd dysgu rhagorol ar gyfer pobl ifanc Bwcle a thu hwnt. Maen fraint i weithio gyda phobl ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol addysgol ar draws Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at ddatblygiad pellach addysg yn y wlad.