Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Caffi Dementia yn dathlu’r Nadolig

Published: 21/12/2016

Roedd pobl â dementia au gofalwyr wedi mynychu Dawns Caffi Cof cyntaf a gynhaliwyd yn y Clocktower ym Mostyn. Roedd yr holl bobl or chwe chaffi cof a thrigolion cartrefi gofal yn y sir wedi cael gwahoddiad. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Maen wych gweld cymaint o bobl yma heddiw. Mae hwn yn ddathliad go iawn or hyn yr ydym wedii gyflawni eleni - gan weithio gyda chymunedau i ddarparu cymorth a chefnogaeth i drigolion Sir y Fflint. Rydym ni hefyd yn edrych ymlaen at y gwaith gwych a gynlluniwyd ar gyfer 2017 ar gyfer Gwasanaethau Dementia yn Sir y Fflint.” Wrth i westeion gyrraedd, cawsant eu croesawu gan y Cynghorydd Jones a chyflwynodd y gantores, Sharon Wallace, a anogodd pawb i godi ac ymarfer eu dawnsio “strictly”. Yn ystod y prynhawn, roedd gwirfoddolwyr yn darparu diodydd a bwffe ar gyfer y gwesteion. Cefnogwyd y digwyddiad gan gymunedau a sefydliadau o fewn Sir y Fflint, gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, NEWCIS, Grwp Llywio Cyfeillgar i Ddementia Fflint a phawb syn ymwneud âr Caffis Cof. Meddai’r Cynghorydd Jones: “Darparwyd cludiant, defnydd or neuadd, cyllyll a ffyrc a llestri, bwyd, diod a holl bethau gwych eraill a oedd yn gwneud y digwyddiad hwn mor arbennig gan nifer o sefydliadau - diolch arbennig i Wates Living Space, Jones y Garddwyr, Eglwys y Santes Fair ar Eglwys Gatholig yn y Fflint, Gwasanaethau Dydd Melin Wynt, y Clocktower ar holl wirfoddolwyr, hebddynt ni fyddai digwyddiad fel hyn yn bosibl. Yn mwynhaur dathliadau