Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwneud defnydd da o hen goed Nadolig

Published: 21/12/2016

Ailgylchwch eich hen goeden Nadolig eto eleni gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, a chyfrannu at y gwaith parhaus o adfer cynefin twyni tywod pwysig. Maer Ceidwaid yn gofyn am goed Nadolig go iawn dros bedair troedfedd o daldra, yn un darn a heb addurniadau ar ôl cyfnod y Nadolig. Gall trigolion fynd âu coed i Barc Gwepra yng Nghei Connah, lle bydd ardal yn cael ei dynodi yn y prif faes parcio neur ardal maes parcio ger canolfan weithgareddau Pentref Peryglon, Heol yr Orsaf, Talacre rhwng dydd Mercher 4 a dydd Iau 12 Ionawr, 2016. Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Partneriaeth Talacre: “Roedd ymdrechion y llynedd yn wych, buom yn gweithio gyda myfyrwyr lleol a gwnaed llawer iawn o waith. Eleni, byddwn yn gwneud y cyfan eto gyda grwp newydd o fyfyrwyr ac yn ychwanegu at y gwaith sydd eisoes yn bodoli.” Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Mae hon yn ffordd dda iawn o ailgylchu coed Nadolig dros ben. Bydd defnyddio eich hen goed yn y modd hwn yn helpu i warchod ein hamgylchedd naturiol ac yn gwella amddiffynfeydd rhag llifogydd. Rydw in annog pawb i gefnogir cynllun eto fel y maent wedi gwneud mor dda yn y gorffennol. “Dros y 18 mlynedd diwethaf mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint ai bartneriaid wedi sefydlogi’r twyni trwy dywod dal gwynt a gosod ffensys i leihau difrod i’r cyn dwyni sensitif. Daeth cynlluniau adfer traethau gan beirianwyr Cyngor Sir y Fflint â thywod wedi’i garthu i’r traeth i adeiladu’r cyn dwyni fel amddiffynfeydd môr.” Bydd ceidwaid, gwirfoddolwyr a grwpiau o fyfyrwyr yn gosod yr holl goed a gasglwyd y flwyddyn nesaf.