Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithgaredd Chwarae yn Sir y Fflint

Published: 04/01/2017

Maer Cyngor wedi gwneud ymrwymiad clir i gynnal gweithgaredd chwarae. Yn y Cabinet fis diwethaf, adroddwyd y byddai bron i £900,000 yn cael ei fuddsoddi dros dair blynedd i ddisodli offer chwarae, uwchraddio mannau chwarae a disodli arwyneb chwarae’r meysydd chwaraeon synthetig. Yn ogystal â hynny, bydd y Cyngor yn parhau âr cyllid refeniw cyfatebol o £123,000 ar gyfer ardaloedd chwarae er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael eu cynnal yn gywir. Maer cyllid hwn yn cael ei gyfateb gan Gynghorau Tref a Chymuned i roi buddsoddiad o tua £250,000 mewn ardaloedd chwarae lleol. Yn 2016, cytunodd y Cyngor i ddarparu, am flwyddyn yn unig, cyllid i barhau â lefel y ddarpariaeth cynllun chwarae a ddarperir yn y blynyddoedd blaenorol yn dilyn tynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, roedd cynlluniau chwarae eleni yn cael eu hariannu’n rhannol gan y Cyngor Sir gyda thua £80,000 ac yn rhannol gan Gynghorau Tref a Chymuned. Maer Cyngor yn parhau i weithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned i ddod o hyd ir ateb gorau i sicrhau parhad gweithgarwch y cynllun chwarae yn y dyfodol, gan wneud y defnydd gorau or adnoddau sydd ar gael yn yr amgylchedd ariannol heriol hwn. Safbwynt y Cyngor yw amddiffyn y ddarpariaeth o gynlluniau chwarae - mae llawer ohonynt yn cael eu colli mewn rhannau eraill o Gymru drwy effeithiau toriadau a orfodir yn y gyllideb - oherwydd mae galw mawr amdanynt a thystiolaeth glir o werth chwarae ar gyfer datblygiad pobl ifanc . Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Ym mis Ionawr, bydd y Cabinet yn ystyried dyrannu swm cyllid untro o £40,000 i barhau â lefel o gymorth trosiannol i gynlluniau chwarae yn 2017/18. Rydym yn cydnabod gwerth y cynlluniau hyn i gymunedau lleol a’r gwerth sydd ganddynt wrth ysbrydoli plant i chwarae a bod yn greadigol. Yn gyffredinol yn 2017/18 maer Cyngor yn ceisio cefnogi meysydd chwarae a chynlluniau chwarae drwy ddarparu buddsoddiad ychwanegol o oddeutu £1.2 miliwn.” Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Hamdden: “O ystyried gofyniad yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae cenedlaethol a heriau darparu’r mathau hyn o wasanaethau yn yr hinsawdd bresennol, cytunwyd i ailsefydlu Fforwm Chwarae Strategol Sir y Fflint i gydlynu gwaith ar draws y Sir. Cynhaliwyd digwyddiad i roi hwb ymlaen i’r broses hon ym mis Tachwedd, a hwylusir gan Chwarae Cymru a’r Doctor Stuart Lester ac estynnwyd gwahoddiad i holl aelodaur gymuned a swyddogion. Y camau nesaf fydd nodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd ar gyfer y Fforwm. Mae’r holl waith caled hwn yn dangos bod Cyngor Sir y Fflint wir wedi ymrwymo i gynnal gweithgaredd chwarae yn y Sir a bydd yn gweithio gyda phartneriaid a Chynghorau Tref a Chymuned i ddarparur gwasanaeth gorau posibl in trigolion.”