Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Gic Gyntaf i Bêl-droed cerdded yn Sir y Fflint

Published: 19/01/2017

Mae Pêl-droed Cerdded – fersiwn arafach o’r gêm hyfryd, wedi cyrraedd Sir y Fflint diolch i bartneriaeth unigryw rhwng Gap Cei Connah yn y Gymuned, Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer Corff Sir y Fflint a’r Gwasanaeth Hamdden. Bydd sesiynau’n cael eu cynnal bob dydd Mawrth rhwng 1.45pm – 2.45pm yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy am bris o ddim ond £2. Yn ystod misoedd y gaeaf bydd gemau’n cael eu chwarae mewn neuadd chwaraeon dan do ac yna yn y gwanwyn yn symud i gaeau 3g awyr agored. Ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno aros am sgwrs ar ôl y gêm bydd paned a chacen ar gael am bris o ddim ond £1.80. Nod pêl-droed cerdded yn wreiddiol oedd ceisio ailennyn diddordeb unigolion dros 50 oed mewn chwarae’r gêm ond erbyn hyn mae pobl o bob oed yn cael eu hannog i gymryd rhan er mwyn cynyddu eu gweithgaredd corfforol ac ailgynnau cariad at bêl-droed. Mae’r rheolau wedi’u haddasu fel nad oes unrhyw redeg, ychydig iawn o gyswllt corfforol a chicio yn hytrach na thaflu’r bêl i mewn. Gyda llai o straen ar y corff a fawr ddim newid cyfeiriad sydyn mae’r gêm yn caniatáu i’r rhai sy’n cymryd rhan chwarae yn ôl eu pwysau eu hunain heb ofni cael eu hanafu. Mae chwarae’r gêm ar gyflymder cerdded yn ffordd wych o gadw’n ffit gan leihau’r siawns o ddioddef anaf neu ddisgyn ac mae hefyd yn ffordd dda o gyfarfod pobl newydd. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet dros Hamdden: “Mae Pêl-droed Cerdded yn gyfle rhagorol i bob aelod o’r gymuned gymryd rhan yn un o’r mathau o chwaraeon sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Ers 2011 mae clybiau pêl- droed ar hyd a lled y wlad wedi bod yn cynnal sesiynau ac ar hyn o bryd mae ‘na dros 400 o glybiau, gyda llawer o gynghreiriau’n trefnu rhaglenni gemau tymhorol. Ein gobaith yw y gallwn annog cymaint o bobl â phosib i chwarae’r gêm hyfryd – beth bynnag eu safon, mae croeso i bawb chwarae pêl-droed cerdded.’’ Meddai Pennaeth Gap yn Gymuned, Lee Breeze: “Rydym wrth ein bodd cael gweithio mewn partneriaeth efo Tîm Atgyfeiriadau Ymarfer Corff Sir y Fflint er mwyn cynnig y rhaglen Pêl-droed Cerdded yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Mae gallu gwneud hyn fel rhan on rhaglen gymunedol gan fanteisio ar arbenigedd tîm Atgyfeiriadau Ymarfer Corff Sir y Fflint yn bluen yng nghap Gap yn y Gymuned a’r rhai sy’n cymryd rhan yn y sesiynau. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r berthynas eto fyth yn y dyfodol. ” Mae croeso i bawb fynychu felly ewch i chwilio am eich hen bethau pêl-droed a dewch draw! Nodyn i olygyddion Mae croeso i chi anfon ffotograffydd i lansiad swyddogol Pêl-droed Cerdded yn Sir y Fflint ddydd Mawrth 24 Ionawr am 1pm yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Queensferry.