Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hwyl yr Haf 2014

Published: 26/06/2014

Mae llyfryn Hwyl yr Haf newydd (sy’n rhad ac am ddim!) Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint, bellach ar gael i’w lawrlwytho o wefannau Cyngor Sir y Fflint a Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint. Maer canllaw poblogaidd a defnyddiol yma’n cael ei gynhyrchu pob haf ac yn rhestru’r digwyddiadau a’r gweithgareddau hamdden sy’n cael eu cynnal yn ystod yr haf yn Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Os ydych chin chwilio am rywbeth iw wneud dros yr haf, yna mae’r llyfryn yma’n cynnwys popeth ac yn ffynhonnell wybodaeth wych am weithgareddau diddorol. Fe allwch chi gael gwybodaeth am gynlluniau chwarae, y celfyddydau, digwyddiadau llyfrgell a theatr, gweithgareddau cefn gwlad, chwaraeon a llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau hamdden eraill syn cael eu cynnal ar draws y sir. Bydd copi papur yn cael ei ddosbarthu i bob ysgol gynradd ac ysgol arbennig yn Sir y Fflint neu fe allwch chi nôl copi o’ch llyfrgell neu’ch canolfan hamdden leol. Fe allwch chi hefyd lawrlwytho’r canllaw o wefan y Cyngor a gwefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint. I lawrlwytho copi, ewch i wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd www.fisflintshire.co.uk neu ffoniwch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint ar (01244) 547017 neu e-bostiwch fisf@flintshire.gov.uk.