Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llyfrgell Treffynnon a’r Canolbwynt Hamdden

Published: 11/01/2017

Mae Llyfrgell a Chanolbwynt Hamdden newydd Treffynnon bellach ar agor. Y llynedd, derbyniodd Llyfrgell Treffynnon £120,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau. Roedd hyn yn caniatáu i Gyngor Sir y Fflint symud y Llyfrgell i mewn i’r Ganolfan Hamdden i greu pwynt canolog sy’n cynnig ystod o wasanaethau. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint, a fu’n ymweld â’r cyfleuster newydd yn ddiweddar: “Mae’r canolbwynt arloesol hwn yn groesawgar iawn a bydd yn annog ac yn denu defnyddwyr newydd, yn enwedig plant ifanc, gyda mannau ar gyfer gweithgareddau, Wi-Fi am ddim a mannau dysgu. Bydd modd i bobl eistedd a darllen neu fynd ar y cyfrifiaduron wrth ddisgwyl am aelodau or teulu syn defnyddio cyfleusterau eraill y ganolfan. “Mae gosod y ganolfan hamdden a’r llyfrgell yn yr un lle wedi gweithio’n dda iawn yng Nglannau Dyfrdwy ac mae’n golygu y gall y llyfrgell fod ar agor am fwy o amser ac fe all y cwsmeriaid gael llawer o wasanaethau mewn un lle cyfleus. Rhif ffôn newydd y llyfrgell yw 01352 703850. Y Cyng. Chris Bithell gyda disgyblion o Ysgol Gwenffrwd