Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfrif Refeniw Tai

Published: 13/01/2017

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn ystyried y gyllideb ddrafft ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2017/18 mewn cyfarfod ddydd Mawrth, 17 Ionawr. Y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) sy’n ariannu swyddogaeth landlordiaid y Cyngor ar gyfer 7,189 o gartrefi. Mae hyn yn cynnwys trwsio a chynnal a chadw tai, gwella’r stoc a gwneud gwelliannau amgylcheddol, rheolaeth cymdogaethau gan gynnwys datrys ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofalu am stadau, casglu incwm ac ymgysylltiad cwsmeriaid. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi manylion ynghylch y cynnydd cadarnhaol y mae’r Cyngor wedi’i wneud o ran perfformiad ariannol, sicrhau bod targedau Safonau Ansawdd Tai Cymru yn cael eu diwallu, anrhydeddu’r ymrwymiadau yn y Ddogfen Dewisiadau* a pharhau â rhaglen uchelgeisiol y Cyngor o adeiladau tai cyngor newydd a thai fforddiadwy, sydd ar y trywydd cywir ac yn symud yn ei flaen yn gynt na’r disgwyl. Mae’r gyllideb ddrafft yn argymell cynnydd mewn rhent o 2.5% (+ hyd at neu - £2) gyda rhenti targed ar gyfer tenantiaethau newydd. Bydd rhenti garejis yn codi £1 yr wythnos. Meddai Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd Aaron Shotton: “Rydw i wrth fy modd y bydd cyllideb arfaethedig y CRT ar gyfer 2017/18 yn ein galluogi i barhau â’n buddsoddiad mewn gwella cartrefi tenantiaid; rhaglen fuddsoddi gwerth £20m ynghyd ag ymrwymiad o bron £8m i barhau i adeiladu tai cyngor newydd.” Meddai Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, Helen Brown: “Mae’r CRT yn dangos sut y byddwn yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, yn cadw at addewidion y ddogfen Dewisiadau ac yn adeiladu tai cyngor newydd. Rydym ar y trywydd cywir i wella ein stoc tai fel sy’n ofynnol erbyn 2020 ac rydym yn adeiladu tai cyngor newydd. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd fel tîm cryf ac rwy’n hynod o falch o’n llwyddiannau.” * Yn 2012, cynhaliodd y cyngor bleidlais ymysg ei denantiaid ynghylch yr opsiwn i ‘drosglwyddo stoc’. Roedd y broses hon yn cynnwys gwneud ymrwymiadau i denantiaid ynghylch ansawdd gwasanaeth a pherfformiad, a ddylai tenantiaid ddewis aros gyda’r cyngor neu newid i landlord arall. Defnyddiodd 71% o’r tenantiaid eu pleidlais gydag 88% yn dewis parhau gyda Sir y Fflint yn landlord iddynt.