Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn Ariannu Rhaglen Gyfalaf

Published: 12/01/2017

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar Raglen Gyfalaf y Cyngor 2017/18 - 2019/20, pan fydd yn cyfarfod dydd Gwener, 20 Ionawr. Mae’r Rhaglen Gyfalaf yn cefnogi asedau isadeiledd ac adeiladau’n bennaf (e.e. priffyrdd ac ysgolion) a buddsoddi mewn modelau gwasanaethau newydd neu wediu hail-fabwysiadu (e.e. hamdden a gofal cymdeithasol). Mae’r buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig wedi’u halinio â chynlluniau busnes gwasanaeth portffolio a’r Cynllun Gwella. Mae rhai o’r buddsoddiadau allweddol wedi’u hamlinellu isod: · Mae Ysgol Uwchradd Castell Alun ac ysgol gynradd Glan Aber wedi’u nodi fel y rhai â’r anghenion mwyaf brys, gan fod angen estyniad ac ailfodelu’r adeiladau cyfredol. Mae buddsoddiad sydd wedi dod i gyfanswm o £4.6 miliwn wedi’i ddyrannu ar gyfer gwaith yng Nghastell Alun a Glan Aber yn elwa o fuddsoddiad sydd bron i £1 miliwn. o Mae Ysgol Uwchradd Castell Alun am gael estyniad, gyda darpariaeth bloc Celf a Dylunio a Thechnoleg dau lawr, ac ailfodelu ardaloedd eraill. Dyddiad cychwyn, blwyddyn ariannol 2018/19. o Bydd ysgol gynradd Glan Aber, Bagillt, yn cael addasur neuadd bresennol i ddarparu dau fan dysgu addas, ac adeiladu neuadd newydd, syn addas i nifer y plant ar y gofrestr, ynghyd ag addasiadau bach i dair ystafell ddosbarth. Dyddiad cychwyn, blwyddyn ariannol 2017/18. · Mae cyfanswm o £4 miliwn o fuddsoddiad wedi’i ddyrannu ar gyfer adeiladu cyfleuster gwasanaethau dydd anableddau dysgu newydd sbon, a fydd yn cymryd lle canolfan Glanrafon yn Queensferry. Maen rhan o ymrwymiad y Cyngor i ofal dydd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. · Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl – mae dyraniadau blynyddol o bron i £1.5 miliwn wedi’u nodi ar gyfer addasiadau, i alluogi preswylwyr i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. · Mae cynnydd o £100,000 o 2017/18 ymlaen i gyflwyno rhaglen uwchraddio toiledau yn yr ysgolion uwchradd a chynradd. · Mannau chwarae a chaeau chwaraeon synthetig – mae dyraniad ychwanegol o bron i £900,000 dros dair blynedd wedi’i ganfod i ariannu cyfarpar chwarae newydd, uwchraddiadau i fannau chwarae a disodli arwyneb caeau chwaraeon synthetig, sydd mewn cyflwr gwael. · Cynnal gwelliannau mewn canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, a fydd yn gwella’r ddarpariaeth. Cyfanswm y buddsoddiad ar gyfer y gwelliannau hyn yw £454,000 Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, yr Aelod Cabinet Cyllid: “Er gwaethaf y cyngor yn wynebu her ariannol ddigynsail, rydym wedi nodi rhaglen gyfalaf glir ac uchelgeisiol dros y pedair blynedd nesaf ar gyfer isadeiledd ac ysgolion. Rwy’n falch y byddwn yn gallu cynnal gwelliannau yn y canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, buddsoddiad sylweddol yn ein hysgolion a darparu canolfan ddydd anabledd dysgu newydd or radd flaenaf, sy’n dangos bod Sir y Fflint yn gyngor blaengar ac arloesol sy’n buddsoddi yn lles ein sir.”