Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Nodiadau Canllaw Cynllunio Lleol

Published: 12/01/2017

Ceisir cymeradwyaeth gan Gabinet y Cyngor yn eu cyfarfod ar 17 Ionawr ar gyfer 20 o Nodiadau Canllaw Cynllunio Lleol (NCCLl) er mwyn eu mabwysiadu yn ffurfiol fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA). Mae’r NCCLl wedi’u datblygu yn dilyn ymarfer ymgynghori helaeth yn cynnwys datblygwyr, asiantau, adrannau mewnol y Cyngor, awdurdodau cyfagos, cynghorau tref a chymuned, ymgynghoreion statudol a grwpiau diddordeb lleol rhwng 18 Rhagfyr 2015 a 12 Chwefror 2016. Mae’r NCCLl, rhai yn newydd ac eraill wedi’u diwygio, yn ymdrin ag ystod o ystyriaethau cynllunio, o’r gwagle o amgylch anheddau i Ardaloedd Cadwraeth, cadwraeth natur i dai fforddiadwy a safonau parcio i gadwraeth ynni ac ynni adnewyddadwy, a byddant yn cael eu defnyddio i gefnogi polisïau yng Nghynllun Datblygu Unedol mabwysiedig Sir y Fflint, i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd; “Bydd y NCCLl newydd yn helpu i ddarparu arweiniad clir a gwybodus ar bob ffactor sy’n dylanwadu ar benderfyniadau ar geisiadau cynllunio a strategaethau defnydd tir tymor hir. Bydd ganddynt hefyd fwy o rym fel ystyriaethau cynllunio pwysig ar benderfyniadau cynllunio defnydd tir ac yn helpu i esbonio polisïau penodol yn y CDU, nes y gellir cymeradwyo’r CCA newydd fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol sydd wrthi’n cael ei ddatblygu.” Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Cyngor: www.siryfflint.gov.uk/cynllunio