Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cambrian Aquatics

Published: 12/01/2017

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn adolygu adroddiad a gyflwynwyd gan Cambrian Aquatics, y fenter gymdeithasol a gymerodd y gwaith o gynnal pwll nofio Cei Connah ym mis Mai 2016, pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn. Mae’r pwll nofio wedi gweithredu yn llwyddiannus a rhaglenni nofio newydd a chynlluniau eraill wedi’u cyflwyno, a’r defnydd wedi bod yn gadarnhaol. Cafodd Cambrian Aquatics gymhorthdal cychwynnol gan Gyngor Sir y Fflint yn ogystal â Chyngor Tref Cei Connah. Mae’r rhain yn amodol ar adolygiad blynyddol yn dibynnu ar berfformiad y busnes. Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd cadarnhaol ac yn cynnig grant pellach o £65,000 ar gyfer yr ail flwyddyn o weithredu, yn amodol ar nifer o amodau. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwasanaethau Hamdden: “Dyma enghraifft dda o drosglwyddiad ased cymunedol llwyddiannus arall, ac mae’r Cyngor wedi cael ymateb cadarnhaol i’r cynllun CAT o bob rhan o’r sir. Rydym yn parhau i chwilio am atebion tymor hir i gynnal ein gwasanaethau ac asedau lleol a darparu cyfleoedd ar gyfer adfywio a mentrau cymdeithasol.”