Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisïau Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes 2017/18

Published: 13/01/2017

Bob blwyddyn mae’n rhaid i bob Cyngor gymeradwyo rhai polisïau penodol sy’n ymwneud â gweinyddu Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes. Mae hyn yn rhan o’r broses o osod Treth y Cyngor, pan ystyrir o dan ba amgylchiadau y bydd y Cyngor yn dyfarnu gostyngiadau trethi lleol ac/neu’n caniatáu rhyddhad ardrethi er mwyn sicrhau bod biliau Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes yn cael eu cyfrifo’n gywir. Ar gyfer y flwyddyn 2017-2018, yr argymhelliad i Gabinet y Cyngor yw y bydd y Cyngor, o Ebrill 2017, yn cyflwyno premiwm o 50% ar Dreth y Cyngor ar gyfer ar ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na 12 mis. Nod hyn yw annog perchnogion i ddechrau gwneud defnydd llawn o’u heiddo unwaith eto er mwyn mynd i’r afael â’r galw am dai yn lleol, cefnogi’r cynnydd mewn tai fforddiadwy sydd ar gael i’w prynu neu i’w gosod a gwella golwg cymunedau lleol. Gall preswylwyr fod yn dawel eu meddwl y cymerwyd camau i leddfu effeithiau’r premiwm ar y rhai hynny sydd o bosibl yn ei chael yn anodd gwerthu/llenwi eu heiddo, er enghraifft efallai y bydd gan berchnogion sydd wedi marchnata eu heiddo i’w werthu neu ei osod hawl i beidio talu’r premiwm am 12 mis. Gofynnir i’r Cabinet hefyd nodi gweithrediad y Polisi Rhyddhad Ardrethi Busnes yn ôl Disgresiwn (DBRRP) a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2016. O dan y polisi hwn ni fydd sefydliadau sydd eisoes yn manteisio ar Ryddhad Ardollau Gorfodol yn derbyn taliadau atodol yn ôl disgresiwn. Bydd yr holl ddyfarndaliadau yn ôl disgresiwn eraill i sefydliadau gwirfoddol ac ‘nid er elw’ yn gostwng i ddisgownt o ddim mwy na 80%. Er mwyn sicrhau cynaladwyedd hirdymor y sectorau Elusennol a Gwirfoddol ac fel ‘rhwyd ddiogelwch’ ychwanegol, mae fframwaith hefyd yn cael ei gyflwyno ar gyfer ymdrin ag unrhyw achosion o galedi a allent godi. Argymhellir hefyd y dylai’r Cyngor barhau â’r polisi presennol o ystyried gostyngiadau Treth y Cyngor yn ôl disgresiwn dim ond mewn achosion o argyfyngau sifil neu drychinebau naturiol a pheidio â rhoi gostyngiadau ‘atodol’ yn ôl disgresiwn i fusnesau sydd eisoes yn derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach. Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae’n bwysig bod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod cymaint â phosibl o’r bron i 900 o eiddo preifat gwag yn ein Sir yn cael eu llenwi. Gall y Cyngor helpu perchnogion eiddo o’r fath mewn sawl ffordd, er enghraifft drwy fenthyciadau a chynlluniau grant, a buaswn yn eu hannog i fanteisio ar y cynlluniau hyn. Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd rôl pob elusen, grwp gwirfoddol a sefydliad nid er elw, ac mae’r DBRRP newydd yn taro’r cydbwysedd cywir drwy barhau i gynnig lefelau hael o ryddhad ardollau ar yr un pryd â helpu’r Cyngor i bontio’r bylchau y mae’r toriadau ariannol wedi’u creu. Buaswn hefyd yn annog pob grwp lleol cymwys i fanteisio ar gynllun rhyddhad ardollau busnesau bach Llywodraeth Cymru.” Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried yr argymhellion ar gyfer gweinyddu Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes 2017/18 yn ei gyfarfod ar 17 Mawrth.