Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn derbyn gwobr y Lluoedd Arfog

Published: 19/01/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn gwobr efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwr yn annog cyflogwyr i gefnogi amddiffyniad ac mae’n ysbrydoli eraill i wneud hynny hefyd. Mae yna dair lefel – efydd, arian ac aur. Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint “Mae Sir y Fflint wedi ymrwymo i’r wobr lefel efydd sy’n dangos ein bod yn cefnogi’r lluoedd arfog ac yn barod i gyflogi milwyr wrth gefn, cyn-filwyr y lluoedd arfog, hyfforddwyr cadetiaid a phartneriaid personél milwrol. Rwy’n falch iawn i Gefnogi’r Lluoedd Arfog yn Sir y Fflint ac mae’r wobr hon yn ategu at Gyfamod y Lluoedd Arfog gan y Cyngor eisoes.” Mae’r Cyfamod yn ddatganiad gwirfoddol o gydgefnogaeth rhwng cymunedau sifil a’u cymuned Lluoedd Arfog lleol. Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwr wedi’i ddylunio’n bennaf i gydnabod cefnogaeth y sector preifat er bod sefydliadau cyhoeddus fel awdurdodau lleol hefyd yn gymwys i gael eu cydnabod.