Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Teithiwch drwy’r amser yr hanner tymor yma!

Published: 08/02/2017

Mae Archifdy Sir y Fflint yn gwahodd teithwyr amser ifanc i gofrestru ar gyfer digwyddiad cyffrous yr hanner tymor yma. Bydd digwyddiad Teithwyr Amser Bychain yn cael ei gynnal ar 22 Chwefror am 10.30am yn yr Archifdy ym Mhenarlâg Gall babanod a phlant hyd at 7 oed ddod draw gyda’u rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid i gael hwyl yn dysgu am hanes trwy luniau, storïau, crefftau a cherddoriaeth. Bydd y sesiwn yn para awr a, gorau oll, bydd yn rhad ac am ddim. I archebu lle neu i gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at archives@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01244 532364.