Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae’n bryd i ni symud y llyfrau

Published: 27/01/2017

Ar y cyd â Gwasanaeth y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau bydd Llyfrgelloedd Sir y Fflint yn arddangos gwaith nifer o artistiaid yn ystod mis Chwefror. Byddan nhw’n clirio rhai or llyfrau i wneud lle i weithiau celf 3D, gyda’r nod o ddod â chelf yn nes at y bobl. Pwrpas y gyfres unigryw hon o arddangosfeydd yw pwysleisio nad oes yn rhaid i gelf fod mewn lle penodol a bod celf ymhob man ac yma i ni ei mwynhau. Bydd gwaith pedwar artist yn cael ei arddangos mewn pedair llyfrgell yn y sir, sef y Fflint, Bwcle, Glannau Dyfrdwy a’r Wyddgrug. Mae Katie Scarlett Howard yn gerflunydd sy’n gwneud ffigurau ceramig, yn seiliedig yn bennaf ar y ffurf fenywaidd. Mae hi’n defnyddio tiwbiau silindrog wedi eu gwneud o glai ‘crank’. Bydd ei gwaith i’w weld yn Llyfrgell y Fflint o 30 Ionawr tan 20 Chwefror. Mi fydd yna hefyd weithdy brynhawn ddydd Iau, 2 Chwefror. Bydd arddangosfa “Floral Deconstruction” Ticky Lowe i’w gweld yn Llyfrgell Glannau Dyfrdwy 1-20 Chwefror, a bydd gweithdy brynhawn ddydd Mercher, 15 Chwefror. Bydd gwaith Mandy Coates i’w weld yn Llyfrgell Bwcle 1-20 Chwefror, a bydd gweithdy brynhawn ddydd Mawrth, 14 Chwefror. Mae Mandy wedi bod yn gwneud basgedi ers chwarter canrif ac mae ei dyluniadau yn greadigol ac yn gyfoes. Mae Cefyn Burgess yn artist tecstilau a bydd ei waith ar ddangos yn Llyfrgell yr Wyddgrug rhwng 31 Ionawr a 20 Chwefror. Mi fydd ganddo hefyd weithdy brynhawn ddydd Llun, 6 Chwefror. Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal o 2pm tan 6.30pm. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Rydw i’n falch bod tîm Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint a’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn parhau i feddwl am ffyrdd newydd o gefnogi unigolion medrus lleol – gan arddangos eu gwaith mewn mannau annisgwyl. Mae celf yn rhywbeth ar gyfer pawb a bydd y gweithdai yn debycach i sesiynau “artist preswyl, lle bydd modd i bobl wylio’r artistiaid wrth eu gwaith a rhoi cynnig ar greu eu darn nhw o gelfyddyd.” Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01352 704408.