Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Enghraifft ddisglair o’r oes ddigidol

Published: 26/01/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch iawn bod Ysgol Gynradd Parc Cornist wedii dewis fel enghraifft ddisglair o sut y gall technoleg ddigidol wella bywyd ysgol, yn dilyn Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Cafodd yr ysgol yn Fflint ei dewis fel un o ysgolion “arloeswyr digidol” Llywodraeth Cymru yn 2015 ac ers hynny, mae wedi gwella cymhwysedd digidol disgyblion, staff, rheini, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach wrth gynnwys technoleg ddigidol ym mywyd yr ysgol. Dywedodd y Pennaeth, Nicola Thomas: “Ers cael ein dewis fel un o’r ysgolion arloeswyr digidol, rydym wir wedi mynd ir afael âr her i ymgysylltun llwyr âr oes ddigidol. I mi, mae’n wych gweld y plant yn cyfranogi ac yn frwdfrydig dros yr hyn maent yn ei wneud, i gael meddwl agored i chwilio am ffyrdd eraill o ateb cwestiynau, i gofnodi beth maent wedii ddysgu ai ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol i ymchwilio iw dysgu. Mae’r ystafell ddosbarth bellach yn fyd-eang – nid ywn dod o lyfr neu geg yr athron unig. Mae’r ysgol wedi mynd â thechnoleg ddigidol i lefel newydd. Un o nodau allweddol yr ysgol yw galluogi disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach i gysylltu, cydweithio a chyfathrebu ar-lein mewn dull cyfrifol a diogel. Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn codi ymwybyddiaeth o eDdiogelwch” a dysgu digidol ymhlith cymuned eu hysgol, yn ogystal ag ysgolion eraill ar draws y Sir. Maent hyd yn oed wedi cynnal sesiwn galw heibio mewn banc lleol i helpu cwsmeriaid ddysgu am fod yn ddiogel ar-lein. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Mae clywed bod un o ysgolion ein Sir wedi’i dewis fel enghraifft o arfer da ar gyfer gweddill Cymru’n fy ngwneud yn falch iawn. Maer staff a’r disgyblion ym Mharc Cornist wir wedi mynd i’r afael â’r her hon i ddatblygu technoleg a dysgu digidol – rydw i hyd yn oed wedi clywed un aelod o staff yn disgrifio’r offer fel “cas pensiliau digidol”, gyda’r dechnoleg bob amser yn yr ystafell ddosbarth i helpu gyda llythrennedd, rhifedd a meysydd eraill o’r cwricwlwm.” Mae modd gweld astudiaeth achos lawn o Barc Cornist ar-lein ar https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-orau/technoleg-ddigidol-ym-mywyd-ysgol-gynrad d?_ga=1.136083633.1854803201.1483023630