Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Beyond the Boundaries

Published: 09/02/2017

Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint wedi cynorthwyo preswylydd lleol i ddatblygu menter gymdeithasol a fydd yn darparu lleoliadau gwaith ar gyfer pobl ifanc gydag anabledd. Mae Beyond the Boundaries , Cwmni Buddiannau Cymunedol, wedii greu gan Jill Smith sydd, dros yr wyth mlynedd diwethaf, wedi datblygu a rheoli Salon Gwallt a Harddwch Beyond the Fringe ym Mynydd Isa. Gan ddefnyddio ei harbenigedd busnes a sgiliau a ddysgodd wrth hyfforddi i fod yn athrawes, penderfynodd Jill ddatblygu menter gymdeithasol er budd pobl ifanc ag anableddau ar rhai ag anghenion cymhleth. Mae Beyond the Boundaries wedii ddatblygu i greu cyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer oedolion ifanc gydag anawsterau dysgu yn Sir y Fflint. Ar ôl cynnal cynllun peilot llwyddiannus, lansiodd Jill Beyond the Boundaries yn ddiweddar yn Llys Eleanor yn Shotton, gyda Lewis Roberts, nai Jill ai hysbrydoliaeth ar gyfer datblygu Beyond the Boundaries, a Joanne Liversage, cleient, yn torrir rhuban. Dywedodd y Cynghorydd Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: Mae Beyond the Boundaries yn enghraifft wych or math o gydwybod cymdeithasol sydd yn Sir y Fflint. Gan ategu at fusnes llwyddiannus, mae Jill wedi datblygu Beyond the Boundaries i fod yn hunangynhaliol ac i symud oddi wrth gyllid grant o fewn 12 mis ar ôl agor. Dywedodd Jill: Rwyn frwdfrydig ynglyn â darparu cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc syn byw gydag anableddau dros 25 oed ac roeddwn eisiau helpu. Bydd yr oedolion ifanc yn derbyn cefnogaeth i fod yn aelod o dîm, gyda rolau a chyfrifoldebau penodol, i weithredu salon gwallt a harddwch masnachol. Bydd eu cyfraniad yn cael ei gydnabod bob tro gan roi ymdeimlad o falchder a bod yn rhan o dîm iddynt. Byddant yn derbyn cyflog a fydd yn rhoi gwobr ariannol iddynt ond hefyd yn darparu ymdeimlad o werth a chyflawniad. Mae Jill wedi gwneud cais am gyllid i Grantiau ICF y Trydydd Sector syn ceisio cefnogi pobl gydag anableddau dysgu (o bob oedran) a phlant gydag anghenion cymhleth. Mae hefyd wedi derbyn cymorth gan Gymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint a thîm Datblygu Busnes Cyngor Sir y Fflint. Aeth Jill yn ei blaen: Maer gefnogaeth yr wyf wedii derbyn gan Gymunedau yn Gyntaf ar Cyngor wedi bod yn werthfawr iawn. Maent wedi cynorthwyo gyda chynllunio busnes, cynllunio ariannol, cofrestrur cwmni a chefnogaeth foesol! Nawr fod gennyf gynllun busnes wedii brision llawn, rwyn hyderus y gall y salon fod yn gynaliadwyn ariannol yn y 12 mis nesaf.