Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Published: 01/02/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar 7 Chwefror er mwyn hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol, yn arbennig ymysg plant a phobl ifanc. Mae’r diwrnod yn cael ei gynnal ar ail ddiwrnod yr ail wythnos yn yr ail fis bob blwyddyn; ac mae miloedd o bobl yn uno i godi ymwybyddiaeth o broblemau diogelwch ar-lein a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled y byd. Y thema eleni yw Byddwch yn rhan o’r newid: Unwch ar gyfer gwell rhyngrwyd’. Dywedodd y Cynghr. Christine Jones a Billy Mullin, Cefnogwyr Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r rhyngrwyd wedi dod yn rhan o’n bywydau pob dydd, ond mae’n bwysig cofio bod yna bobl sy’n achub ar bob cyfle posibl i beryglu’ch diogelwch ar-lein. Mae Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn helpu i godi ymwybyddiaeth pobl o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r byd ar-lein. Mae’n bwysig ein bod ni’n diogelu ein hunain a’n plant a’n pobl ifanc yn erbyn peryglon posibl, i sicrhau ein bod ni i gyd yn mwynhau pori drwy’r we ac yn osgoi seiberdroseddau.” Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut y gallwch chi aros yn ddiogel ar-lein: - Defnyddiwch gyfrineiriau cryf a chofiadwy - Gosodwch feddalwedd gwrth-firws ar declynnau newydd - Gwiriwch osodiadau preifatrwydd eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol - Siopwch yn ddiogel ar-lein – cofiwch wirio a yw safleoedd manwerthu ar-lein yn ddiogel - Lawrlwythwch feddalwedd a phatshys rhaglenni pan ofynnir i chi wneud hynny - Peidiwch byth â chwrdd â ‘ffrind’ ar-lein - Peidiwch â datgelu gwybodaeth bersonol - Os ydych chi’n cael ei bwlio ar-lein – dywedwch wrth rywun cyn i bethau fynd yn waeth - Peidiwch ag uwchlwytho na rhannu lluniau pryfoclyd –unwaith y byddant ar-lein byddant allan o’ch dwylo Yn ddiweddar adroddodd Gyngor Sir y Fflint sut y mae un o ysgolion cynradd y sir wedi ei hamlygu fel enghraifft ddisglair o’r oes digidol. Yn 2015 cafodd Ysgol Gynradd Parc Cornist yn y Fflint ei dewis fel yn o ysgolion “arloeswyr digidol” Llywodraeth Cymru. Ers hynny mae wedi gwella cymhwysedd digidol disgyblion, staff, rheini, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach wrth gynnwys technoleg ddigidol ym mywyd yr ysgol. Mae’r ysgol wedi mynd â thechnoleg ddigidol i lefel newydd. Un o nodau allweddol yr ysgol yw galluogi disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach i gysylltu, cydweithio a chyfathrebu ar-lein mewn dull cyfrifol a diogel. Mae disgyblion yn codi ymwybyddiaeth o e-Ddiogelwch” a dysgu digidol ymhlith cymuned yr ysgol, yn ogystal ag ysgolion eraill ar draws y sir. Maent hyd yn oed wedi cynnal sesiwn galw heibio mewn banc lleol i helpu cwsmeriaid ddysgu am fod yn ddiogel ar-lein. Cafodd y gwaith hwn ei gydnabod fel enghraifft o’r arfer orau gan Brif Arolygydd Estyn yn ei Adroddiad Blynyddol. Dewch i ganfod mwy am y Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a chymryd rhan! www.saferinternetday.org.uk #SID2017.