Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog yn ymweld â phrosiect adfywio

Published: 07/02/2017

Bu i Carl Sargeant, AM ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, ymweld yn ddiweddar â datblygiad yng Nghei Connah. Mae Cwrt Pen-y-Lan yn cynnwys sawl bloc o fflatiau a fflatiau deulawr, syn gymysgedd o gartrefi gwarchodol ar gyfer pobl hyn a thai anghenion cyffredinol. Mae’r ardal wedi dioddef o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae hynny wedi gwneud y trigolion yn bryderus tu hwnt. Nid yw’r Cyngor yn goddef ymddygiad o’r fath o gwbl. Ers dechrau’r flwyddyn ddiwethaf mae Cwrt Pen-y-Lan wedi ei weddnewid diolch i gyllid Lwfans Atgyweiriadau Mawr a Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn un o nifer o brosiectau yn ardal Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid Glannau Dyfrdwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu dros £7 miliwn ar gyfer prosiectau adfywio yng Nglannau Dyfrdwy ac mae oddeutu £450 mil yn cael ei ddefnyddio i wella Cwrt Pen-y-Lan. Mae Cyngor Sir Y Fflint hefyd wedi derbyn £5.050 miliwn drwy gynllun Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17, syn cael ei ddefnyddio i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae’r Cyngor wedi ymgynghori â budd-ddeiliaid allweddol, gan gynnwys tenantiaid, cynghorwyr tref a sir, swyddogion tai a’r heddlu lleol. Arweiniodd hyn at nodi meysydd allweddol ar gyfer eu gwella, gan gynnwys: · Gwella diogelwch tenantiaid drwy estyn y ffensys, creu cymunedau caeedig a defnyddio TCC; · Dymchwel garejys i greu gardd gymunedol; · Lleihau’r swn a glywir drwy osod ffenestri newydd ac insiwleiddio; · Gwella’r meysydd parcio; · Ailwampio’r ystafell gymunedol. Mae’r gwaith ar fin dod i ben ac mae’r trigolion wrth eu bodd gyda’r gwelliannau. Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge, a dywysodd y Gweinidog o gwmpas yr ardal ar ei newydd gwedd: “Rydw i’n hynod falch o’r hyn y mae’r Cyngor wedi eu cyflawni yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf ac rydw i’n falch iawn o’r gwahaniaeth rydym ni wedi ei wneud i wella cartrefi trigolion ein sir. Rydym ni wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wella ein stoc tai bresennol drwy roi cynlluniau Safon Ansawdd Tai Cymru a Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid ar waith. Y llynedd aethom gam ymhellach ac adeiladu’r tai cyngor cyntaf ers cenhedlaeth, ac maer rhaglen honno yn parhau yn 2017 ac i’r dyfodol. Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: “Mae’r cartrefi rydw i wedi eu gweld heddiw yn Sir y Fflint yn enghreifftiau gwych o sut mae awdurdodau lleol yn gwneud mwy na darparu to uwch pennau pobl. “Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn sicrhau bod gan 220,000 a mwy o aelwydydd yng Nghymru gartref diogel a chysurus. Mae hefyd yn hanfodol ein bod ni fel llywodraeth yn cyrraedd nifer o’n nodau eraill, gan gynnwys gwella iechyd a lles y genedl a chreu swyddi newydd a darparu cyfleodd hyfforddi a fydd yn ein helpu ni i fynd i’r afael â thlodi. “Mae’r gwelliannau yng Nghwrt Pen-y-Lan, sydd hefyd wedi eu hariannu drwy raglen Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid, yn enghreifftiau gwych o sut y gall gwella cartrefi a chymunedau hefyd wella bywydau pobl.”