Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwelliannau ir A5104, Penyffordd

Published: 06/02/2017

Disgwylir y bydd gwaith yn dechrau ar 13 Chwefror i wellar A5104 o Benyffordd i Frychdyn. Bydd y gwaith yn cynnwys nifer o fesurau diogelwch ffordd a fydd yn cynnwys disodli goleuadau stryd, uwchraddio arwyddion traffig a gwelliannau i gyffyrdd ar hyd y ffordd. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: Maer Cyngor wedi llwyddo i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau diogelwch yn y safle hwn lle y bu sawl damwain ddifrifol dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn falch ein bod yn gallu gwella diogelwch y ffordd ar gyfer holl ddefnyddwyr y ffordd.