Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen ail-wynebu priffyrdd - Mai 2017

Published: 13/02/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn y broses o baratoi ei raglen blynyddol o ail-wynebu ffordd gerbydau i wella cyflwr y rhwydwaith priffordd a gynhelir o fis Mai 2017. Mae’r Sir yn monitro cyflwr ffyrdd yn barhaus i sicrhau bod y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio orau ar gyfer rheolaeth tymor hir y rhwydwaith priffyrdd ac unwaith mae’r safleoedd i’w trin yn cael eu cadarnhau, caiff y wybodaeth hon ei chyhoeddi ar wefan Cyngor Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Mae’r Cyngor yn parhau i sicrhau bod gwariant cyfalaf sylweddol yn yr ased hanfodol hwn ar gael. Rwy’n falch o ddweud bod £0.8m wedi’i ddyrannu i’r cynlluniau yn y flwyddyn ariannol i ddod ac y bydd trigolion Sir y Fflint yn gweld yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio’n ddoeth ac yn gweld manteision y gwelliannau hyn ar unwaith.”