Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Agoriad Swyddogol Llys Custom House; Cei Connah

Published: 10/02/2017

Cafodd y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu hadeiladu yng Nghymru ers dros 20 mlynedd eu hagor yn swyddogol gan y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, ddydd Gwener, 10 Chwefror. Symudodd Tenantiaid i mewn i ddeuddeg o eiddo newydd y cyngor yn Llys Custom House yng Nghei Connah ychydig cyn y Nadolig. Wedi’i adeiladu ar safle hen Ysgol Custom House Lane, y datblygiad yw’r safle cyntaf i gael ei gwblhau fel rhan o Raglen Tai Strategol ac Adfywio Cyngor Sir y Fflint (SHARP), a fydd yn darparu 200 o gartrefi cyngor a 300 o gartrefi fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda’i bartner strategol, Wates Residential, i sicrhau fod y tai wedi eu hadeiladu i safon uchel gyda nodweddion syn fodern ac yn effeithlon o ran ynni er mwyn cadw’r costau rhedeg ar lefel y gellir ei rheoli. Wedi’i lywio gan Ddyluniad Safonol Tai Sir y Fflint, y sylfaen ar gyfer yr holl dai newydd a ddarperir drwy SHARP, syn cynnwys gofynion ar gyfer cynllun mewnol o ansawdd da a chyson a pharcio digonol, mae dyluniad Llys Custom House hefyd yn dynwared ac yn ymgorffori nodweddion yr hen ysgol. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae cwblhaur tai cyngor newydd cyntaf yn Llys Custom House yn nodi dechrau cyfnod cyffrous ar gyfer y Cyngor wrth iddo wireddu ein huchelgais hir ymarhous i ddarparu tai cymdeithasol o ansawdd newydd a mawr eu hangen ar draws y Sir. “Roeddwn in teimlon falch iawn i gwrdd â rhai or tenantiaid newydd yn ddiweddar wrth iddynt weld eu cartref newydd am y tro cyntaf. Roeddwn yn falch o glywed y tenantiaid yn siarad am “bennod newydd yn eu bywydau” a pha mor gyffrous oedden nhw am symud i Lys Custom House.” Mae datblygiad newydd Llys Custom House wedi dod â manteision ir gymuned leol, gan gynnwys buddsoddiad o £220,000 i ddarparu 524 wythnos o hyfforddiant ar gyfer dros 130 o bobl leol. Mae ymdrech Wates Residential i helpur economi leol hefyd wedi golygu bod y datblygwr yn gwario dros £1m gyda busnesau lleol drwy gydol datblygiad Llys Custom House. Dywedodd Joanne Jameson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential: “Mae agoriad swyddogol Llys Custom House yn gyfle perffaith i ganolbwyntio ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni wrth gyflwynor datblygiad newydd ffantastig hwn. Fel y cyntaf i gael ei gwblhau o dan fenter SHARP Cyngor Sir y Fflint, mae’r cartrefi hyn yn cynrychioli’r hyn y gellir ei gyflawni o ran ansawdd pan fydd tîm yn gweithio gydai gilydd tuag at nod cyffredin. “Nid yn unig y bydd y cartrefi newydd yn Llys Custom House yn gwneud gwahaniaeth i fywydau trigolion, ond maent hefyd wedi dod â llawer o gyfleoedd i’w rhoi yn ôl ir gymuned leol. Ein gobaith yw y bydd y manteision a grëir yn gwneud gwahaniaeth i bobl leol am genedlaethau i ddod.”