Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl

Published: 10/02/2017

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Gwariant y Grant ar gyfer 2017/18 ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror. Yn 2012, creodd Llywodraeth Cymru Grant Rhaglen Cefnogi Pobl. Maer grant hwn yn ariannu darpariaeth gwasanaethau syn galluogi i bobl ddiamddiffyn ennill a chadw eu hannibyniaeth drwy aros yn eu cartrefi eu hunain. Maer Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2016-18 ar gyfer Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl wedi bod yn destun gostyngiadau sylweddol rhwng 2013 a 2016. Fodd bynnag, maer grant wedi ei ddiogelu yn y flwyddyn ariannol 2017/18, gan roi cyfle ir Tîm Cefnogi Pobl barhau âr gwaith gyda darparwyr. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint, “Rwyn falch iawn bod Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl wedi cael ei ddiogelu yn 2017/18. Mae hyn yn rhoi sicrwydd y bydd ein Tîm Cefnogi Pobl yn gallu parhau âr gwaith gwych y maent wedi bod yn ei wneud gyda phartneriaid ynghylch materion pwysig fel cam-drin domestig, cymorth tai a gofal yn y gymuned.”