Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Asesiad blynyddol y Gwasanaethau Addysg

Published: 10/02/2017

Bydd aelodau Cabinet y Cyngor yn clywed bod Sir y Fflint yn parhau i wella ym mhob cyfnod allweddol, ddydd Mawrth 14 Chwefror. Mae’r Cyngor yn cynnal hunanwerthusiad o’i Wasanaethau Addysg bob blwyddyn, i helpu i nodi meysydd gwelliant, gan gynnwys y rhai a amlygwyd ar gyfer gwelliant gan arolygwyr. Pwrpas adroddiad y Cabinet yw derbyn cyfraniadau Aelodau i’r hunanwerthusiad drafft diweddaraf. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Mae canran y dysgwyr sy’n gadael ysgol heb gymhwyster a nifer y bobl ifanc ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn parhau’n eithriadol o isel yn Sir y Fflint. Drwy fod yn 1.3% yn 2015, roedd cyfran NEET Blwyddyn 11 ar ei isaf yng Nghymru, a’r ffigur isaf erioed i Sir y Fflint am yr ail flwyddyn yn olynol.” Bydd aelodau Cabinet hefyd yn clywed bod gwelliannau wedi bod yn arbennig o gadarnhaol mewn categoreiddio ysgolion cynradd (o dan y model cenedlaethol) ac mewn deilliannau dysgwyr yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3. Mae hyder y cyhoedd mewn addysg leol yn uchel. Rhoddodd pobl Sir y Fflint yr ail sgôr uchaf ar gyfer cyflwr addysg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2015. Mae’r asesiad hefyd yn dangos bod cefnogaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiant cymdeithasol yn dda. Mae trefniadau diogelu’n gadarn ac yn cael eu monitron effeithiol. Mae presenoldeb mewn ysgolion yn parhau i fod yn uchel, gyda lefelau absenoldeb heb awdurdod yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd yn parhau’n sylweddol is na’r cyfartaledd cenedlaethol, a gyda’r ysgolion uwchradd yn cyflawnir lefel genedlaethol isaf o 0.4%. Maer rhaglen moderneiddio ysgolion hefyd yn gwneud cynnydd da. Mae parhau i wella deilliannau dysgwyr, yn enwedig yn y sector uwchradd ac i grwpiau diamddiffyn, ynghyd â gwella arweinyddiaeth a gwytnwch mewn ysgolion sy’n peri pryder, yn parhau i fod yn flaenoriaethau i’r Cyngor. Mae’r hunanwerthusiad yn dangos bod y Cyngor yn parhau i berfformio’n dda o’i gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru. Mae’r hunanwerthusiad hefyd yn dangos bod y Cyngor wedi bod yn gweithio’n gadarnhaol i wneud cynnydd mewn meysydd yr ystyriwyd bod angen gwelliant gan Estyn. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Mae hunanwerthuso’n bwysig iawn i gydnabod cryfderau niferus gwasanaethau addysg Sir y Fflint a meysydd gwelliant.”