Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safonau Iaith Gymraeg

Published: 10/02/2017

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint nodi a chymeradwyo canlyniad llwyddiannus y Cyngor ar Safonau Iaith Gymraeg wediu trafod. Bydd Cynghorwyr yn clywed canlyniad trafodaethau gyda Chomisiynydd y Gymraeg am set newydd o Safonau Iaith Gymraeg ar gyfer y Cyngor. Bydd y Safonau hyn, sy’n cael eu gweithredu ar draws Cymru, yn disodli Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor. Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol ac adeiladol gyda Chomisiynydd y Gymraeg, mae’r Cyngor wedi cytuno ar ddiwygiadau, eithriadau a dyddiadau gweithredu wedi’u gohirio i’r Safonau bellach, yn benodol i Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint: “Mae hwn yn ganlyniad da i Sir y Fflint. Mae’r Cyngor yn gwbl ymrwymedig i’r iaith Gymraeg ac mae gennym ganlyniad cadarnhaol i’r nifer fach o faterion a godwyd gennym gyda’r Comisiynydd - roedd y rhain yn cynnwys pethau fel ein mewnrwyd, negeseuon system sain ac arwyddion. “Mae gennym set o safonau ymarferol a realistig bellach syn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddwyieithrwydd heb fod yn faich o ran cost. Mewn adroddiad i’w gyflwyno yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cyflwyno Strategaeth Hyrwyddo Iaith a fydd yn codi proffil a chryfhau’r Gymraeg yn Sir y Fflint.”