Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Ddigidol ar gyfer y Cyngor

Published: 10/02/2017

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint fabwysiadu strategaeth ddigidol eang, newydd pan fydd yn cyfarfod nesaf ar 14 Chwefror. Mae’r strategaeth ddigidol yn nodi amcanion y Cyngor mewn perthynas â thechnoleg ddigidol, gan gynnwys datblygu economaidd, addysg a gwaith cymunedol – materion mor eang â sicrhau bod gan bobl ifanc y dechnoleg ddigidol y maent ei hangen a phwyso am fand-eang cynt yn y Sir. Un o’r uchelgeisiau mwyaf a phellgyrhaeddol yw troi at ddull digidol yn gyntaf o ddarparu gwasanaethau. Mae gwefan y Cyngor eisoes wedi cael y sgôr uchaf o 4 seren gan y corff proffesiynol sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, SOCITM (Society of Information Technology Management). Mae’r Cyngor am wella ar hyn trwy sicrhau bod mwy o wasanaethau ar gael dros y we fel y gall pobl eu defnyddio ar adegau syn gyfleus iddyn nhw, yn hytrach nag yn ystod yr oriau gwaith traddodiadol. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint: “Mae pobl yn disgwyl gallu cael gafael ar wasanaethau ar adeg syn addas ar eu cyfer nhw a thrwy ddarparur rhain dros y we, maer Cyngor yn sicrhau eu bod nhw ar gael bob awr or dydd. Mae bron i 90% o oedolion ym Mhrydain yn defnyddior we bob dydd ac maer gyfran honnon fwy ymysg grwpiau iau. Rydyn ni’n cydnabod y gallai’r rhyngrwyd fod yn rwystr i rai pobl allu defnyddio’r gwasanaeth y maen nhw ei angen ac felly mi fyddwn yn parhau i ddarparu dulliau traddodiadol, fel gwasanaeth dros y ffôn neu trwy ddefnyddio swyddfeydd llwyddiannus Sir y Fflint yn Cysylltu.