Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyhoeddi Contractwr i adeiladu ysgolion newydd
Published: 24/06/2014
Mae contractwr wedi cael ei ddewis er mwyn mynd ati i adeiladu’r ysgolion
cynradd ac uwchradd newydd yn Nhreffynnon. Fe fydd yr ysgolion newydd ar yr un
safle, sef safle presennol yr Ysgol Uwchradd.
Bydd Miller Construction yn adeiladu’r ysgol arloesol, gwerth £30miliwn, ar dir
ym mhen uchaf cae chwarae presennol yr ysgol. Disgwylir i’r gwaith adeiladu
gychwyn fis Ionawr 2015.
Bydd un ysgol gynradd newydd yn cymryd lle Ysgol Babanod Perth y Terfyn ac
Ysgol Iau y Fron a bydd yn gwasanaethu dysgwyr hyd at 11 oed. Bydd yr ysgol
gynradd yn rhannu safle â chyfleuster newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Treffynnon
a fydd yn cael ei adeiladu er mwyn darparu addysg i rai 11-16 oed.
Disgwylir i’r ysgolion newydd agor fis Medi 2016 a bydd y cyfleusterau
presennol yn parhau i gael eu defnyddio hyd nes yr adeg hynny i sicrhau nad oes
unrhyw aflonyddwch ar y dysgwyr.
Bydd lle i 600 o ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd trillawr arfaethedig a lle i
315 o ddisgyblion yn yr ysgol gynradd unllawr. Bydd plant ysgol gynradd a
disgyblion oedran uwchradd yn derbyn eu haddysg mewn adeiladau o’r radd flaenaf
gyda chyfleusterau TG modern er mwyn cynorthwyo’r dysgu.
Fe grëir mynediad newydd i gerbydau i’r campws dysgu o Ffordd Pen-y-Maes ynghyd
â mannau mynediad newydd i gerddwyr o Strand Park, Ffordd Pen-y-Maes a Strand
Walk.
Bydd ardaloedd chwaraeon, chwarae a hamdden newydd yn cael eu creu ar draws y
safle ar gyfer y disgyblion a bydd gan y ddwy ysgol neuadd chwaraeon dan do.
Mae’r adeiladau ar tir o’u hamgylch wedi cael eu dylunio i sicrhau y gall
grwpiau cymunedol lleol eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.
Dywedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg yng Nghyngor Sir y Fflint:
“Dyma garreg filltir arall wrth ddarparu’r campws dysgu cyffrous a newydd yma
yn Nhreffynnon. Fe fydd yn gyfleuster newydd rhagorol a modern ar gyfer plant,
pobl ifanc a’r gymuned ehangach. Hwn hefyd yw’r contract cyntaf i gael ei
gynnig o dan
Fframwaith Contractwr Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru.”
Mae’r broses caffael newydd hon yn golygu bod gan gynghorau grwp o gontractwyr
sydd wedi’u cyn-gymhwyso fel nad oes angen iddynt fynd drwy broses dendro hir a
drud, gan arbed amser a chostau. Caiff y contractwyr eu dewis mewn modd deg,
ac maent yn mwyhau’r manteision i’r gymuned leol, yn cynnal datblygiad
economaidd ac yn creu adeiladau amgylcheddol wrth greu swyddi a
phrentisiaethau.
Gan siarad ar ran penaethiaid y tair ysgol, dywedodd Pennaeth Ysgol Uwchradd
Treffynnon: Mae plant a chymuned Treffynnon yn haeddu’r gorau, a dyna beth
fydd ganddynt ar ôl i adeiladau’r ysgolion newydd gael eu cwblhau. Wrth i ni
weithio i sicrhau’r addysg o safon gorau ar gyfer plant Treffynnon, rydym yn
gwybod y bydd eu profiad dysgu’n cael ei wella’n enfawr gan y buddsoddiad yn yr
hyn a fydd yn gyfleuster newydd ffantastig ar gyfer y gymuned. Mae sicrhau
adeiladu ysgolion sydd yn addas ar gyfer yr 21ain Ganrif gam yn nes at realiti
yn sgil penodi Miller Construction.”
Dyma oedd gan Ian Jubb ,Cyfarwyddwr Rheoli Miller Construction i’w ddweud:
“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael ein dewis i adeiladu’r campws dysgu
newydd. Mae gan Miller hanes o adeiladu ysgolion o safon uchel ar gwerth gorau
gyda manteision parhaus i’r gymuned. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r
budd-ddeiliaid sy’n cymryd rhan ar y prosiect ac i greu perthynas barhaus
gyda’r ysgolion a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Gallwch weld y cynlluniau’n llawn ar wefan y Cyngor, ynghyd â thaith rithwir
o’r campws.