Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Strategaeth Dwf Ranbarthol a Chynllun Glannau Dyfrdwy

Published: 10/02/2017

Bydd adroddiadau ar y Strategaeth Dwf Ranbarthol a Chynllun Glannau Dyfrdwy yn cael eu hadolygu gan Gabinet Cyngor Sir y Fflint yn eu cyfarfod nesaf ddydd Mawrth, 14 Chwefror. Mae’r adroddiadau hyn yn dangos sut y mae’r Cyngor ar y blaen o ran cynllunio ar gyfer y strategaeth o dwf economaidd, fel partner rhanbarthol ac o ran trosi hyn yn fuddiannau lleol. Mae’r Cyngor yn ymgyrchu dros fuddsoddiad sylweddol yn yr isadeiledd er mwyn cefnogi’r twf hwn gan gynnwys gwelliannau i’r A494/A55 sydd eisoes wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru; strategaeth ar gyfer gwelliannau i’r rhwydwaith rheilffordd (Metro Gogledd Cymru) a phecyn integredig o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth leol er mwyn mynd i’r afael â thagfeydd. Mae’r Strategaeth Dwf Ranbarthol yn gynllun uchelgeisiol sy’n anelu at dwf o £7.2bn yn economi Gogledd Cymru erbyn 2035 a chreu hyd at 120,000 o swyddi newydd a 37,500 o dai newydd. Bydd y Strategaeth yn adeiladu ar gryfderau presennol y rhanbarth, yn enwedig yn y sectorau gweithgynhyrchu uwch ac ynni, er mwyn cynyddu menter, gwella lefelau sgiliau a gwella’r isadeiledd. Cefnogir y Strategaeth Dwf Ranbarthol, sy’n gosod cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio economaidd y dyfodol, gan arweinwyr a phrif weithredwyr pob un o chwe awdurdod unedol y rhanbarth, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndwr, Coleg Cambria, Grwp Llandrillo-Menai (Coleg) a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Gwnaed y Strategaeth yn bosibl drwy gydweithio, gwaith partneriaeth ac ymgysylltiad sector preifat cryf. Bydd gweithio ar draws ffiniau yn hollbwysig o ran tyfu economi Gogledd Cymru a meithrin cysylltiadau gyda Gogledd Orllewin Lloegr a’r Pwerdy Gogledd Lloegr ehangach. Mae hanes cryf o waith partneriaeth ar draws y ffin, gan gynnwys er enghraifft Cynghrair Mersi Dyfrdwy a grëwyd er mwyn gwella isadeiledd y rheilffordd yn lleol. Mae Gogledd Cymru’n gweithio’n agos â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn gwireddu uchelgeisiau’r Strategaeth. Mae Glannau Dyfrdwy yn rhan flaenllaw o Strategaeth Dwf Gogledd Cymru ac mae Cynllun Glannau Dyfrdwy yn nodi gweledigaeth 30 mlynedd uchelgeisiol ar gyfer sut y gellir gwireddu hyn yn lleol. Mae’r Cynllun yn cyfuno trafnidiaeth, cynllunio, datblygiad economaidd, tai a’r amgylchedd o fewn un weledigaeth. Mae 10,000 o swyddi newydd a 1,500 o dai newydd eisoes wedi’u darogan ar gyfer Glannau Dyfrdwy. Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton: Mae’r Strategaeth Dwf Ranbarthol yn cyflwyno uchelgais glir ar gyfer twf economaidd ar draws Gogledd Cymru. Mae Parth Menter Glannau Dyfrdwy yn hanfodol bwysig i lwyddiant economaidd y rhanbarth, fodd bynnag mae’n bwysig hefyd i drigolion Glannau Dyfrdwy allu manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth presennol a rhai newydd. Am y rheswm hwn mae’r Cyngor hefyd yn lansio Cynllun Glannau Dyfrdwy sy’n nodi anghenion buddsoddi’r ardal ar gyfer y dyfodol; wrth wraidd hyn mae galwadau am wasanaethau rheilffordd newydd a gwell, gan gynnwys gorsafoedd trên newydd yng Nglannau Dyfrdwy a Brychdyn. Mae cludiant yn arbennig o bwysig i dwf economaidd yn ac o amgylch Glannau Dyfrdwy. Bydd buddsoddiad wedi’i dargedu’n ofalus yn helpu i gysylltu’r gwahanol fathau o gludiant â’i gilydd yn well, yn lleihau tagfeydd ac yn cynyddu argaeledd mannau parcio. Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ar y gwelliannau hyn ac mae Cynllun Glannau Dyfrdwy yn fframwaith pwysig o ran cyfiawnhau cyllid ar gyfer gwneud gwelliannau i gludiant; mae Llywodraeth Cymru er enghraifft eisoes wedi cytuno i gefnogi gwaith paratoadol ar gyfer gwella’r rhwydwaith beicio yng Nglannau Dyfrdwy.