Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cartrefi Newydd Abermorddu

Published: 14/02/2017

Mae cwmni rheoli eiddo Cyngor Sir y Fflint, NEW Homes (Tai Gogledd Ddwyrain Cymru), wedi meddu deg o gartrefi newydd sbon i helpu i roi hwb i nifer y tai fforddiadwy sydd ar osod yn y sir. Mae tri or cartrefi newydd ar ddatblygiad tai newydd Anwyl yn Abermorddu. Wedii gynllunio i ymateb ir heriau a brofir gan drigolion wrth gael mynediad at dai fforddiadwy, mae NEW Homes wedi’i sefydlu gan y Cyngor i gynyddur dewisiadau tai sydd ar gael i drigolion lleol. Maen cynnig nifer o wasanaethau rheoli tai wedi’u teilwra a’u cynllunio i gynyddu nifer ac ansawdd y tai yn y sir. Maer eiddo wedi’u trosglwyddo i NEW Homes fel rhan o rwymedigaethau tai fforddiadwy datblygwyr datblygiadau preifat. Mae hyn yn sicrhau bod datblygiadau newydd yn diwallu anghenion pobl leol o ran tai fforddiadwy. Roedd y tenantiaid newydd yn falch iawn o fod yn gallu symud i mewn ar yr un diwrnod y cafodd y cartrefi eu trosglwyddo i NEW Homes. Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Chadeirydd Bwrdd NEW Homes, y Cynghorydd Bernie Attridge, sydd wedi ymweld â nifer o’r tenantiaid newydd i’w croesawu i’w cartrefi newydd: “Mae NEW Homes wedi’i sefydlu yn benodol i gwrdd âr angen am dai fforddiadwy yn ein cymunedau lleol ac mae rhoi’r tai hyn fel rhan o ganiatâd cynllunio’r datblygwr yn helpu i gyflawni hyn. Rwyf yn falch o groesawu’r tenantiaid newydd i’w cartrefi newydd ac maen braf gweld teuluoedd yn ailgychwyn byw.” Meddai Mathew Anwyl, Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Anwyl: “Rydym ni’n falch o fod yn rhan o ymgyrch tai fforddiadwy NEW Homes yn Sir y Fflint drwy ddarparu tair uned fforddiadwy yn Abermorddu. Mae darparu tai newydd fforddiadwy o ansawdd uchel er budd y gymuned leol yn bwysig ac rydym ni’n falch bod NEW Homes eisoes wedi croesawu eu tenantiaid cyntaf.” Y Cynghorydd Attridge yn cyflwyno allweddi a thusw i denant hapus yn Abermorddu.