Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwesteion arbennig yn cael eu gwobrau mewn agoriad swyddogol

Published: 16/02/2017

Roedd gwesteion arbennig yn yr agoriad swyddogol Llys Custom House yng Nghei Connah yn ddiweddar. Ynghyd â’r pwysigion arferol a’r gwesteion arbennig oedd Tazmin Roberts-Lamb a Logan Burdsall, disgyblion yn Ysgol Cae’r Nant, gyda’u pennaeth Mrs Fox-Parry. Roedd Tazmin, disbygl ym mlwyddyn 6, a Logan, o flwyddyn 3, yn gyd-enillwyr mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd mewn ysgol gerllaw i enwi datblygiad newydd o ddeuddeg ty cyngor sydd wedi cael eu hadeiladu ar hen safle Ysgol Custom House Lane. Meddyliodd y ddau am yr enw Llys Custom House a chawsant eu gwobr, ar ffurf talebau, oddi wrth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton. Dywedodd Mrs Fox-Parry: “Ar ran ein hysgol, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r datblygiad hwn ac i Wates Residential am eu cyfraniad hael i’n hysgol. Treuliais 21 mlynedd yn yr hen ysgol, 15 ohonynt fel pennaeth, cyn i ni symud in hadeilad newydd sbon i fynyr lôn, bum mlynedd yn ôl. Mae’r datblygiad hwn wedi dod â bywyd newydd i’r ardal ac mae wedi’i adeiladu i gyd-fynd â rhai o nodweddion yr hen ysgol, er enghraifft y pyst gatiau tywodfaen. “Yn ystod y gwaith adeiladu, gweithiodd y plant ar ddau fosaig haniaethol sydd bellach ar un o waliau’r datblygiad, ynghyd ag arwydd yr hen ysgol. Byddwn yn gallu dod â’r plant yma i weld yr hen ysgol, a fydd yn gyfle gwych iddynt ofyn cwestiynau ac yna mynd yn ôl i ymchwilio i hanes eu hysgol a’u hardal leol.” Dywedodd y Cyng. Shotton, fel y cyflwynodd y gwobrau i Tazmin a Logan: “Rwyf wrth fy modd yn cyflwynor talebau hyn ir ddau ohonoch - gobeithiaf y byddwch yn mwynhau eu gwario a llongyfarchiadau i chi am fathur enw gwych hwn a’ gyfer y datblygiad newydd cyffrous hwn yng Nghei Connah.” Mae datblygiad Llys Custom House y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu hadeiladu yng Nghymru ers dros 20 mlynedd. Y Cyng. Shotton gyda Logan, Tazmin a Mrs Fox-Parry