Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhagor o gartrefi NEWYDD yn Saltney

Published: 22/02/2017

Yn ddiweddar, daeth cwmni rheoli eiddo Cyngor Sir y Fflint, North East Wales (NEW) Homes, yn berchen ar bedwar ty newydd sbon arall er mwyn helpu cynyddu’r nifer o dai fforddiadwy sydd ar gael i’w rhentu yn y sir. Mae’r pedwar cartref wedi’u lleoli ar ddatblygiad newydd Edwards Homes Garden Village yn Saltney. Sefydlwyd NEW Homes (North East Wales Homes) gan y Cyngor er mwyn cynyddu’r dewisiadau tai sydd ar gael i drigolion lleol. Cafodd y cwmni ei gynllunio i ymateb i’r heriau sy’n wynebu trigolion sy’n ceisio dod o hyd i dai fforddiadwy. Mae’n cynnig gwasanaethau tai wedi’u teilwra a’u cynllunio i gynyddu niferoedd a chodi ansawdd tai fforddiadwy ar draws y sir. Cafodd y tai eu trosglwyddo i NEW Homes fel rhan o rwymedigaethau y datblygwyr i ddarparu tai fforddiadwy ar ddatblygiadau preifat. Mae hyn yn sicrhau bod datblygiadau newydd yn ateb anghenion tai fforddiadwy ar gyfer pobl y gymuned leol. Roedd y tenantiaid newydd wrth eu boddau i allu symud yr un diwrnod a drosglwyddwyd y tai i NEW Homes. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Chadeirydd Bwrdd NEW Homes, a aeth i ymweld â nifer o’r tenantiaid newydd i’w croesawu nhw i’w cartrefi newydd: “Mae NEW Homes wedi cael ei sefydlu yn arbennig i ateb yr angen am dai fforddiadwy gan y cymunedau lleol, ac mae cynnwys y tai yma yng nghaniatâd cynllunio y datblygwr yn ein helpu ni i gyflawni ein nod. Rwy’n falch o groesawu tenantiaid newydd i’w cartrefi newydd ac mae’n werth gweld teuluoedd ar ddechrau pennod newydd yn eu bywydau.” Ychwanegodd Neil Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr Edwards Homes: “Roedd Edwards Homes yn falch iawn i gydweithio â Chyngor Sir y Fflint i ddarparu pedwar ty newydd. Mae’r tai yn ddull cyflym a hawdd o ddarparu tai fforddiadwy y mae’r gymuned leol wir eu hangen.” Dywedodd y Cynghorydd lleol, Richard Lloyd: “Rwy’n falch iawn bod datblygiad Edward Homes yn Saltney wedi darparu pedwar ty newydd i Gyngor Sir y Fflint sydd bellach yn gartrefi i bedwar teulu mewn pryd i’r Nadolig.” “Mae’r syniad o ddatblygwyr yn rhoi cyflenwad o dai i’r cyngor yn lle tai fforddiadwy yn un wych sy’n helpu i adlenwi niferoedd tai’r cyngor ac rwy’n gobeithio bod y cynllun yn parhau.” Neil Edwards (i’r chwith) gyda’r Cynghorydd Attridge yn rhoi’r goriadau i denantiaid hapus, ynghyd â’r Cynghorydd Richard Lloyd (i’r dde)