Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Cyfeillgar i Ddementia yr Wyddgrug

Published: 22/02/2017

Cynhaliodd Grwp Llywio Cyfeillgar i Ddementia Fflint, ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint, eu Gwobrau Busnes yn ddiweddar yng Nghaffi Cof Llys Jasmine, yr Wyddgrug. Roedd y digwyddiad yn ddathliad ar gyfer y deg busnes neu sefydliad yn yr Wyddgrug sydd wedi bod yn llwyddiannus o ran cyflawni statws Gweithio tuag at fod yn Gyfeillgar i Ddementia. Maer busnesau hyn wedi addo o leiaf 4 cam gweithredu o unrhyw un or adrannau ymrwymiad a restrir isod: Ymrwymiad 1: Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff (camau gweithredu yn cynnwys: penodi hyrwyddwr dementia ar gyfer y sefydliad, gan roi dealltwriaeth sylfaenol o ddementia i staff). Ymrwymiad 2: Adolygu amgylchedd ffisegol y siop / adeilad (camau gweithredu yn cynnwys: arwyddion clir yn y siop, mynedfeydd wediu goleuon dda). Ymrwymiad 3: Cefnogi staff syn datblygu dementia neu yn gofalu am rywun â dementia (mae camau gweithredu yn cynnwys: newid rôl y person, gan ddarparu cwnsela yn fewnol). Ymrwymiad 4: Cefnogir gymuned leol (camau gweithredu yn cynnwys: codi arian, gwirfoddoli, partneriaethau elusen). Enillwyr y Gwobrau oedd: · Byddin yr Iachawdwriaeth · Cyngor Tref yr Wyddgrug · Y Bwthyn · Dwy siop Boots yn y dref · Y Savoy · Llys Jasmine · Home Instead · Spavens · Canolfan Ofalwyr NEWCIS Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Dyma’r ail dro i ni gynnal y gwobrau hyn ac maent wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth wella proffil y cyflwr hwn a dangos beth y gall sefydliadau ei wneud i geisio gwneud bywyd yn haws i bobl gyda dementia a’u teuluoedd. Maen parhau’r gwaith gwych syn cael ei wneud ar draws y sir, er enghraifft agor caffis cof.” Dywedodd Cathy Peach, Cadeirydd grwp yr Wyddgrug: “Mae ein grwp wedi gweithion galed i godi ymwybyddiaeth o ddementia gyda chymorth Cymdeithas Alzheimer ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol i sicrhau bod yr Wyddgrug yn lle ble mae pobl â dementia yn cael eu deall, eu parchu, eu cefnogi ac yn hyderus y gallant gyfrannu at fywyd y dref. “Mae ein grwp wedi cael cefnogaeth ardderchog gan y Tîm yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint.” Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Luke Pickering-Jones ar 01352 702655 neu luke.pickering-jones@flintshire.gov.uk.