Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Teithio

Published: 17/02/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Cymuned Higher Kinnerton wedi rhoi gwasanaeth cludiant cymunedol newydd ar waith yn yr ardal fel rhan o gynllun peilot Prosiect Teithio Cymunedol Sir y Fflint. Dechreuodd y gwasanaeth Tacsibws newydd ar 6 Chwefror 2017 ac mae ganddo lwybr ac amserlen benodol i alluogi trigolion Higher Kinnerton i gyrraedd gwasanaethau allweddol ym Mrychdyn. Mae’r gwasanaeth Rhannu Tacsi yn wasanaeth “ffonio a theithio” ar gyfer pobl sy’n methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol yn ne ddwyrain Sir y Fflint. Mae’r gwasanaeth Rhannu Tacsi yn galluogi pobl i fynychu apwyntiadau iechyd/meddygol neu gysylltu â’r gwasanaeth Tacsibws yn Higher Kinnerton. Mae cynlluniau tebyg yn cael eu sefydlu mewn wyth ardal arall yn y sir ac mae ardaloedd Llaneurgain, Cei Connah, Penymynydd, Penyffordd, Bwcle, Treuddyn, Llanfynydd a Threffynnon yn gweithio gyda’r Cyngor i ddatblygu cynlluniau cludiant cymunedol, a bydd y llwybrau a’r amserlenni yn cael eu cadarnhau yn ystod yr wythnosau nesaf. Diolchodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Bernie Attridge, y gymuned leol am gefnogi’r fenter ac ychwanegodd: “Dyma gyfle gwych i’r gymuned gymryd rhan a chefnogi datblygiad cynlluniau cludiant cymunedol y Cyngor. Bydd cynlluniau teithio cymunedol, fel y cynllun peilot newydd yma yn Higher Kinnerton, yn chwarae rhan fwyfwy pwysig wrth ddarparu cludiant i gymunedau lleol. Mae Sir y Fflint wedi ymrwymo i gefnogi cludiant sy’n gymdeithasol angenrheidiol, ond y gwir amdani yw nad ydym ni mewn sefyllfa i gynnig yr un lefelau o gymorthdaliadau bws a llenwi’r bylchau a gafwyd ar ôl i rai gwasanaethau bws masnachol ddod i ben.” Er bod y sefyllfa ariannol sydd ohoni yn golygu y bydd lefel y cymorthdaliadau yn lleihau dros y tair blynedd nesaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi penderfynu peidio â chael gwared ar y cymorthdaliadau cludiant yn gyfan gwbl. Yn hytrach, bydd yn buddsoddi i amnewid y gwasanaethau presennol a rhoi trefniadau “cludiant cymunedol” cynaliadwy a lleol ar waith. Ychwanegodd y Cyng. Attridge: “Mae arnom ni eisiau gweithio mewn partneriaeth â chymunedau i ddatblygu atebion arloesol a chynaliadwy i gau rhywfaint o’r bylchau. Mae mynediad i wasanaethau allweddol yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl ddiamddiffyn mewn cymunedau gwledig yn cael eu cau allan. Maer Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i gymunedau gwledig drwy gyflwynor cynlluniau yma a rwan tror cymunedau yw hi i ddangos eu hymrwymiad drwy ddefnyddio’r gwasanaeth lle bynnag y bo modd i sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy i’r dyfodol. Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau peilot, ewch i: http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident /Streetscene/Community-Transport-in-Flintshire.aspx