Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint i gyflwyno ffyrdd i fynd i’r afael â rheoli cwn a materion baw cwn

Published: 28/02/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio i fynd i’r afael â’r broblem barhaus o faw cwn yn y Sir. Mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel, gyda Swyddogion Gorfodaeth Amgylcheddol Sir y Fflint, a chefnogaeth Kingdom, y Contractwyr Allanol, yn gweithredu yn erbyn y rhai nad ydynt yn glanhau ar ôl eu cwn. Ers Gorffennaf, mae mwy na 80 o Hysbysiadau Cosb Benodedig wediu rhoi am droseddau baw cwn. Er mwyn gwella perchnogaeth cwn cyfrifol ymhellach, mae Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo cynlluniaun ddiweddar i gyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn Sir y Fflint, nid er mwyn mynd ir afael â phroblemau baw cwn yn unig. Bydd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd yn rhoi mwy o bwerau i’r Cyngor roi troseddau dynodedig eraill mewn grym, fel gwahardd cwn yn llwyr neu orfodi cadw cwn ar dennyn mewn rhai mathau o fannau agored. Disgwylir dechrau ymgynghori â’r cyhoedd ar y cynigion hyn yn y misoedd i ddod. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae hwn yn gam cadarnhaol iawn i fynd ir afael â baw cwn, yn ogystal ag ymdrin â phroblemau eraill, fel cwn yn crwydron rhydd mewn ardaloedd chwarae i blant, caeau chwaraeon wediu marcio neu ardaloedd hamdden penodol eraill. Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd rhoi ymarfer corff i’n hanifeiliaid anwes, mae angen cydbwysedd er mwyn sicrhau y gall pawb syn defnyddio ein mannau agored wneud hynnyn ddiogel. I gefnogi’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus, cytunwyd ar fesurau gorfodi eraill, fel camau gorfodi gan weithwyr mewn dillad plaen, rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig os nad oes gan y person ffordd o gasglu gwastraff cwn, biniau sbwriel defnydd deuol, a chwistrellu baw cwn sy’n cael ei adael ar ôl mewn pinc, i dynnu sylw at ardaloedd problemus. Os ydych yn gwybod am ardal gyda phroblem, rhowch wybod i Strydwedd ar 01352 701234 neu drwy Ap Cyngor Sir y Fflint, gan roi cymaint o wybodaeth â phosibl. PENNAWD: Ruth Cartwright a Swyddog Gorfodaeth Amgylcheddol gyda’r Cynghorwyr Carol Ellis a Bernie Attridge