Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad ar Ddiwygior Gyfundrefn Les yn mynd gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr wythnos nesaf

Published: 03/03/2017

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithredu ei rhaglen o ddiwygio cyfundrefnau lles dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i geisio lleihau effeithiau llawn y diwygiadau hyn ar ei drigolion mwyaf diamddiffyn. Mae Credyd Cynhwysol wedi bod yn Sir y Fflint ers mis Ebrill 2014. O fis Ebrill 2017 ymlaen, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno Credyd Cynhwysol “Gwasanaeth Llawn. Mae’r newid hwn yn cael ei gyflwyno mewn tair o ganolfannau swyddi Sir y Fflint yn gyntaf – Shotton, yr Wyddgrug ar Fflint. Mae Credyd Cynhwysol “Gwasanaeth Llawn” yn disodli’r chwe budd-daliad canlynol: · Budd-Dal Tai · Cymhorthdal Incwm · Lwfans Ceisio Gwaith · Lwfans Cymorth Cyflogaeth · Credyd Treth Plant · Credyd Treth Gwaith Yn ogystal â hynny, bydd angen i bawb, bron, hawlio a rheoli eu Credyd Cynhwysol ar-lein o fis Ebrill 2017. Yn ei gyfarfod nesaf ar 8 Mawrth, bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter yn derbyn adroddiad sy’n disgrifior newidiadau allweddol ac effeithiau’r rhain ar bobl leol. Maer adroddiad yn nodi sut maer Cyngor yn ceisio helpu aelwydydd a fydd yn cael eu heffeithio gan y newid a’r her sylweddol, yn enwedig y rhai mwyaf diamddiffyn. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Daw’r diwygiadau ychwanegol hyn ar ben diwygiadau blaenorol, gan gynnwys treth ystafelloedd gwely. Effeithiodd y dreth ar 1,149 o gartrefi yn Sir y Fflint ac roeddent, ar gyfartaledd, £14 yr wythnos yn dlotach oi herwydd. Bydd y cymal nesaf o newidiadau i Gredyd Cynhwysol yn golygu y bydd dros 2,000 o aelwydydd yn Sir y Fflint bron i £40 yn dlotach pob wythnos pan fydd eu nawdd yn dod i ben. “Mae tua chwarter or rhai sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau yn gartrefi sy’n gweithio. Ar ben hynny, mae 75% o’r rhai sy’n cael eu heffeithio yn byw mewn llety rhent preifat ac mae teuluoedd â phlant yn cyfrif am 60%. “Mae’r Cyngor yn bwriadu defnyddio ein canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu i helpu’r trigolion a chynnig cyngor a chymorth iddyn nhw ar reoli eu hawliadau ar-lein. A dweud hynny, bydd nifer sylweddol â llai o incwm, a fydd yn arwain at galedi posib a phenderfyniadau go anodd.