Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Caffi Dementia yn agor yn Saltney

Published: 07/03/2017

Maer caffi diweddaraf i gefnogi pobl syn dioddef o ddementia au gofalwyr wedi cael ei agor yn swyddogol yn Saltney. Mae’r caffi wedi dod yn bosib drwy gymorth a gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, sefydliad nid-er-elw sy’n cefnogi gofalwyr yn y gymuned, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gorllewin Swydd Caer a Dinas Caer, a chymuned a phreswylwyr Saltney. Cafodd y caffi a fydd ar agor unwaith y mis, ar yr ail ddydd Mawrth o bob mis, rhwng 1-3pm, ei agor yn swyddogol yng Nghanolfan Gymunedol Douglas Place ar Woodall Avenue gan y Grwp Llywio Cyfeillgar i Ddementia Saltney. Crëwyd y fenter hon i gael gwared ar y ffin rhwng Sir y Fflint a Gorllewin Swydd Caer a Dinas Caer, fel y gall pobl sy’n byw gyda Dementia a’u gofalwyr gael mynediad ar y cyd at gymorth a chyngor. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Hwn yw’r seithfed caffi dementia yr ydym wedi ei agor yn Sir y Fflint. Rwy’n falch iawn o ymrwymiad staff Cyngor Sir y Fflint a’u sefydliadau partner sydd yn parhau i weithio’n galed i sicrhau ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth a chefnogi pobl gyda dementia a’u gofalwyr. Hyd yma, mae ein caffis wedi bod yn llwyddiant iawn, ac rwy’n siwr y bydd yr un yn Saltney yr un mor llwyddiannus.” Dywedodd y Cynghorydd Louise Gittins, aelod Cabinet Cymunedau a Lles Cyngor Gorllewin Swydd Caer a Dinas Caer: “Rydym yn falch iawn o’r gwaith gwych syn cael ei gyflawni ar draws y fwrdeistref ac yn ehangach i ysbrydoli a galluogi cymunedau cynhwysol a chyfeillgar i ddementia, a thrwy ymrwymiad a brwdfrydedd pawb sydd ynghlwm, gan gynnwys y cynghorau a phartneriaid, sefydliadau, grwpiau a chymunedau lleol. “Gan weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o ddementia a helpu i gefnogi cymuned Saltney i fod yn fwy cyfeillgar i ddementia i alluogi pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a gofalwyr gael eu cefnogi, teimlo’n llai ynysig a bod yn fwy o ran yn eu cymuned leol.” Dywedodd y Cynghorydd Veronica Gay, Cadeirydd Grwp Cyfeillgar i Ddementia Saltney: “Rwyf wedi bod eisiau helpu i ddatblygu caffi dementia yn Saltney. Mae llawer o’r preswylwyr sydd yn fy ward sydd yn byw ac yn cefnogi pobl sydd wedi canfod bod ganddynt ddementia cynnar wedi dod ataf, gan nad oedd unlle yn lleol ac roedd rhaid iddynt deithio o amgylch Sir y Fflint i gael cefnogaeth. “Hoffwn ddiolch i Ray Peters a’i dîm o wirfoddolwyr am gynnal y caffi cof yn Douglas Place. Rwy’n hapus iawn bod hyn wedi digwydd yn awr ac yn falch iawn ei fod yn cael ei gefnogi gan Cyngor Gorllewin Swydd Caer a Dinas Caer, yn arbennig gan fod Saltney wedi’i gydgysylltu ac yn dibynnu ar wasanaethau yng Nghaer. Mae’r ymdrech tîm cymunedol gwych wedi arwain at adnodd gwych i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.” Mae Caffis Dementia yn darparu amgylchedd diogel, cyfforddus a chefnogol ar gyfer pobl â dementia au gofalwyr i gymdeithasu. Yn ogystal â chynnig amrywiaeth o weithgareddau difyr a hwyliog, mae Caffis Dementia yn rhoi cyfle i ofalwyr a phobl â dementia gael gwybodaeth a chyngor a siarad â phobl eraill sydd â phroblemau tebyg. I gael rhagor o wybodaeth am y caffi, cysylltwch â Luke Pickering-Jones ar 01352 702655.