Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hunanwasanaeth yn Llyfrgell yr Wyddgrug

Published: 10/03/2017

Fis yma agorwyd ciosg hunanwasanaeth yn Llyfrgell yr Wyddgrug. Bydd y ciosg yn helpu i gyflymu’r broses syml o fenthyg neu ddychwelyd llyfrau - opsiwn sydd eisoes ar gael yn llyfrgelloedd Glannau Dyfrdwy a Threffynnon. Bydd staff ar gael i ddangos i ddefnyddwyr y llyfrgell sut mae’r ciosg yn gweithio ac i wneud yn siwr bod modd iddynt ddefnyddio eu cardiau aelodaeth gyda’r system newydd. Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell: “Bydd y trefniant newydd o gymorth i gwsmeriaid gan y byddant yn gallu gweinyddu’r broses o fenthyg neu ddychwelyd llyfrau eu hunain, heb orfod aros am aelod o staff, cyn belled nad oes unrhyw gymhlethdodau. Mae’r ciosg hunan wasanaeth yn printio derbynebau am eitemau sy’n cael eu benthyg neu eu dychwelyd Gall y ciosg hefyd ddarllen manylion pentwr o lyfrau ar y tro yn hytrach na gorfod sganio teitlau unigol, sydd yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd sy’n benthyg swp o lyfrau ar gyfer gwahanol aelodau. Fel gwasanaeth rydym yn sylweddoli na fydd ein holl gwsmeriaid yn dymuno manteisio ar y cyfleuster hwn, fodd bynnag rydym yn rhagweld y bydd yn rhyddhau amser staff ar gyfer gweithgareddau datblygu darllenwyr mwy rhagweithiol.” Bydd staff yn parhau i roi gwasanaeth i’r rhai hynny y byddai’n well ganddynt beidio â defnyddio’r ciosg.