Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dweud eich dweud!

Published: 07/03/2017

Dweud eich dweud ar faterion lleol a defnyddio eich pleidlais ar ddiwrnod yr etholiad Cyngor Cymuned Tref a Chyngor Sir dydd Iau, 4 Mai. Mae paratoadau yn cael eu gwneud ar gyfer y bleidlais ac mae gan breswylwyr Sir y Fflint tan ddydd Iau, 13 Ebrill i sicrhau ei bod wedi cofrestru i bleidleisio. Fel arall, mae gan breswylwyr tan 5pm dydd Mawrth, 18 Ebrill i wneud cais am bleidlais drwy’r post a than 5pm dydd Mawrth, 25 Ebrill i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Gellir cyflwyno enwebiadau ymgeiswyr drwy’r tîm Cofrestru Etholiadol y Cyngor o ddydd Llun, 20 Mawrth tan 4pm dydd Mercher, 4 Ebrill, a bydd rhestr lawn o’r ymgeiswyr ar gael ar wefan y Cyngor (www.flintshire.gov.uk) dydd Iau, 5 Ebrill. Dywedodd Colin Everett, y Swyddog Canlyniadau: “Mae’r Tîm Cofrestru Etholiadol y Cyngor sy’n brofiadol a llawn gwybodaeth, yn trefnu’r etholiadau ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth i bleidleiswyr ac i ddarpar ymgeiswyr. “Mae’n bwysig bod pobl yn defnyddio eu hawl i bleidleisio ac i sicrhau nad ydynt wedi’u difreinio oherwydd nad ydynt wedi cofrestru i gymryd rhan yn yr etholiadau sydd ar ddod. Mae pleidleisio hefyd yn sicrhau eich bod yn cael rhoi eich barn ar faterion a gwasanaethau lleol, a gallai bod ar y gofrestr etholwyr gynnal eich statws credyd. “Ni ddylai pobl gymryd arnynt y gallent bleidleisio oherwydd eu bod wedi cofrestru i bethau eraill megis Treth Y Cyngor. Os oes amheuaeth, dylai preswylwyr gysylltu â’n Tîm Cofrestru Etholiadol i wirio a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.” Dim ond ychydig o funudau y maen cymryd i gofrestru i bleidleisio: cofrestrwch ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu ffoniwch y Tîm Cofrestru Etholiadol ar 01352 702412.