Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Esgyn yn dathlu “Camu i mewn i Ofal Plant”

Published: 13/03/2017

Yn dilyn rhaglen hyfforddi arloesol or enw Camu i mewn i Ofal Plant, cafodd gyfranogwyr eu tystysgrifau mewn dathliad yn y Fflint. Mae’r rhaglen Esgyn, a ddatblygwyd i gefnogi’r unigolion hynny sy’n anghyflogedig yn y tymor hir, wedi datblygu’r rhaglen ar y cyd â Chymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA). Mae’r hyfforddiant “Camu i mewn i Ofal Plant” yn brosiect peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf a chleientiaid Esgyn. Gweithiodd mentoriaid a thiwtoriaid Esgyn gyda’i gilydd i sefydlu gofynion cwrs a fyddai’n diwallu anghenion dysgwyr. Datblygwyd y cwrs 8 diwrnod pwrpasol ac mae 12 unigolyn wedi elwa o’r hyfforddiant. Roedd y rhaglen hyfforddiant wyth niwrnod yn cynnwys 12 prif bwnc, yn cynnwys chwarae synhwyraidd, chwarae awyr agored, chwarae a chreadigrwydd i blant dan 2 oed, yn ogystal ag ymwybyddiaeth diogelwch, hyrwyddo agwedd gadarnhaol a hylendid bwyd. Roedd y sesiynau hefyd yn cynnwys ymarfer ffug gyfweliadau. Cafodd pob ymgeisydd dystysgrif a chyflwynwyd y gwobrau gan y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Mae gallu rhedeg rhaglenni hyfforddiant fel hyn gyda chefnogaeth ein partneriaid yn hanfodol ar gyfer ein heconomi leol. Mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl leol fel eu bod yn gallu manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal. Rwyn falch iawn bod y cwrs Camu i mewn i Ofal Plant yn Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus ac rwyn dymunor gorau i bawb ar gyfer y dyfodol. Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Esgyn, cysylltwch â Debbie Barker ar 01244 846090 neu Debbie.barker@Flintshire.gov.uk. Meini Prawf Esgyn: Di-waith am 6 mis a mwy Yn byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf Yn byw mewn cartref di-waith